Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Chwilio am Ysgrifenwyr Preswyl

Mae’r Parc Cenedlaethol eisiau penodi un ysgrifennwr yn yr iaith Gymraeg ac un yn yr iaith Saesneg ar gyfer 2022 – 23

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gwahodd ceisiadau oddi wrth ysgrifenwyr i ddod i breswylio yn y Parc ac adrodd hanesion a fydd yn helpu cynnal dyfodol cynaliadwy. Bydd y preswylion yn canolbwyntio ar ddwy broblem fwyaf ein hoes: yr argyfyngau hinsawdd a natur.

Estynnir gwahoddiad i ysgrifenwyr gyflwyno cynigion ar gyfer prosiect blwyddyn o hyd a fydd yn helpu i ddylanwadu ar gael newid positif yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth. Bydd un ysgrifennwr Cymraeg ac un ysgrifennwr Saesneg yn cael eu penodi ar gyfer 2022 – 23 a bydd pob un yn derbyn £10,000 i gwblhau’r gwaith.

Bydd yr ysgrifenwyr a benodir yn cael eu hysbrydoliaeth o’r tirwedd er mwyn darparu prosiect o amgylch cynaliadwyedd. Fe fyddan nhw hefyd yn cael eu hannog i ddarparu gweithdai i drigolion, ymwelwyr a myfyrwyr yn ystod eu hamser yn y Parc.

Mae’r cynllun yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Choleg y Mynyddoedd Duon a Gŵyl y Gelli. Bydd y Coleg yn cynnig llety rhan amser i’r preswylwyr. Bydd cyfle i’w gwaith gael ei arddangos yn yr Ŵyl fel rhan o’r rhaglen wanwyn 2023.

Meddai Jodie Bond, Rheolwr Materion Cyhoeddus y Parc Cenedlaethol, “rydym wrth ein bodd yn cynnig y cyfle hwn. Mae ysgrifennu’n ysgwyd pobl ac yn meithrin empathi. Mae’r ddau fygythiad, yr argyfyngau natur a hinsawdd, yn gofyn am atebion creadigol a bwriad hyn yw rhoi’r amser, y lle a’r ysbrydoliaeth i’r ysgrifenwyr i drafod hynny. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr ysgrifenwyr a benodir yn darganfod ffyrdd newydd o gysylltu’r cyhoedd ynghylch hyn.”

Mae’r cynllun ar agor i ysgrifenwyr sydd wedi cyhoeddi a rhai sydd heb. Mae ceisiadau ar agor nawr ac yn cau ar 15 Mai. I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i www.bannaubrycheiniog.org/cymunedau/bannaur-dyfodol-rhaglen-ysgrifennwr-preswyl/

DIWEDD