Proffil Swydd ar gyfer
Gwirfoddolwyr Ucheldir y Mynyddoedd Duon
Atebol i: Swyddog Mynediad
Lleoliad: Mynyddoedd Duon
Canolfan: Drwy’r Mynyddoedd Duon i gyd
(Darperir mapiau ar gyfer y storfeydd offer)
PWRPAS Y SWYDD
Monitro a chynnal cyflwr llwybrau penodol a helpu pobl i fwynhau a deall eu hymweliad â’r ardal
ELFENNAU ALLWEDDOL
- Gwneud gwaith cynnal a chadw ar lwybrau penodol, yn cynnwys:
a. Glanhau draeniau
b. Cynnal a chadw arwyneb y llwybrau, er enghraifft drwy glirio cerrig rhydd oddi ar y llwybr
2. Cyfranogi mewn partïon gwaith yn achlysurol er mwyn ymgymryd â gwaith ymarferol mwy. Bydd y tasgau’n cynnwys cynorthwyo contractwyr gyda thasgau penodol megis cludo deunyddiau i’r safle o’r awyr, er enghraifft.
3. Monitro cyflwr llwybrau’r ucheldir a gwaith atgyweirio blaenorol a chyflwyno ffurflenni adroddiad yn amlinellu ardaloedd rydych yn pryderu yn eu cylch (yn cynnwys lluniau pwynt sefydlog ar lwybrau penodol).
4. Cynorthwyo gyda thirlunio yn dilyn gwaith prosiect.
5. Hyrwyddo gwaith grŵp gwirfoddol ceidwaid llwybrau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog drwy siarad â’r cyhoedd a darparu gwybodaeth ar sail anffurfiol.
6. Cynnal perthnasau gwaith da gyda thirfeddianwyr, tenantiaid, ffermwyr, cymdogion, sefydliadau gwirfoddol eraill, cymunedau lleol ac awdurdodau lleol.
7. Cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi a chyfarfodydd gyda gwirfoddolwyr eraill er mwyn codi ymwybyddiaeth o reoli llwybrau’r ucheldir a gwaith Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
8. Glynu wrth Bolisi Iechyd a Diogelwch Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog bob amser.
GWYBODAETH, SGILIAU A PHROFIAD GOFYNNOL
Gwybodaeth:
Hanfodol: Diddordeb mewn gwaith atgyweirio llwybrau’r ucheldir
Ymwybyddiaeth o Iechyd a Diogelwch
Dymunol: Gwybodaeth flaenorol am yr ardal
Sgiliau:
Dymunol: Darllen mapiau a llywio (hyfforddiant ar gael)
Ffitrwydd corfforol
Gallu defnyddio offer llaw
Profiad:
Hanfodol: Cerdded ar yr ucheldiroedd
Dymunol: Gweithio yn yr awyr agored
Gweithio gyda’r cyhoedd
Hyfforddiant
(caiff ei ddarparu)
Cynefino / Croeso (Gorfodol)
Gwaith ymarferol (Gorfodol)
Cymorth Cyntaf (Anghenion yn cael eu hasesu)
Llywio / Ymwybyddiaeth o’r Mynyddoedd (Anghenion yn cael eu hasesu)
Delio â’r cyhoedd (os dymunir)
Cyflwyniad i ecoleg yr ucheldir (os dymunir)
Cyflwyniad i Ddeddfwriaeth Mynediad (os dymunir)
ARALL
- Dylai pob gwirfoddolwr anelu at ymrwymo i ddeg diwrnod o waith gyda gwasanaeth gwirfoddol Bannau Brycheiniog, ond croesawir fwy o ymrwymiad.
- Bydd pob gwirfoddolwr yn cael eu gwahodd i gyfarfod cyflwyniadol i drafod y rôl. Yna, ceir sesiwn gynefino lawn a fydd yn cynnwys hyfforddiant. Ar ôl cwblhau hynny’n llwyddiannus caiff y gwirfoddolwr ei wahodd i ymgymryd â’r rôl.
- I ddechrau, bydd gwirfoddolwyr yn gweithio mewn grŵp. Mae’n rhaid i wirfoddolwyr fod yng nghwmni gwirfoddolwr arall neu unigolyn penodol bob amser.
4. Mae’n rhaid i’r holl wirfoddolwyr gydymffurfio â system rheoli risg Iechyd a Diogelwch Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
5. Gofynnir i wirfoddolwyr am ganiatâd i rannu eu gwybodaeth gyswllt at ddibenion cyd-drefnu gwirfoddolwyr yn unig.
Noder mai perthynas rodd yw’r rôl wirfoddol hon; mae’r holl drefniadau hyn yn rhwym wrth deyrngarwch yn unig ac ni fwriedir iddynt fod yn rhwym wrth y gyfraith