Arolygon Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi dirprwyo’r cyfrifoldeb dros gyflwr a chynnal a chadw’r 1980 cilometr o hawliau tramwy cyhoeddus o fewn ei ffiniau, ac mae’n ofynnol iddo gynnal arolwg o 5% o’r cyfanswm bob blwyddyn.  Bydd y rhan fwyaf o’r llwybrau ar dir fferm, ond mae ychydig o lwybrau yn croesi’r tir comin uwch.

Bydd gwirfoddolwyr yn cynnal arolygon o lwybrau penodedig er mwyn gwirio eu bod yn agored, yn hawdd eu defnyddio ac yn dilyn y llinell ar y map diffiniol, a byddant yn adrodd yn ôl ar gyflwr camfeydd, clwydi a phontydd.  Fel arfer cynhelir yr arolygon hyn yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn, ond mae achlysuron yn codi pan fydd angen gwirio llwybrau.  Darperir y mapiau, y ffurflenni a’r hyfforddiant angenrheidiol i’r syrfewyr wneud y gwaith.