Cyngor ac Awgrymiadau

Ffurflenni Cais
  • Ymchwiliwch i’r swydd ac i’r cwmni.
  • Darllenwch gyfarwyddiadau’r cais yn drylwyr a dilynwch nhw.
  • Cwblhewch yr holl adrannau perthnasol – enw, cyfeiriad, addysg a hyfforddiant, hanes cyflogaeth, manylion geirdaon (sicrhewch eu bod yn gwybod eich bod wedi defnyddio eu manylion), ayb.
  • Mae’n hanfodol eich bod yn llenwi ‘Manyleb y Person’ a fydd yn y Pecyn Swydd. Er mwyn bod ar y rhestr fer bydd yn rhaid i chi ddangos sut rydych yn cwrdd â’r meini prawf ‘hanfodol’. Darllenwch yr hysbyseb swydd a gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o ba sgiliau sydd eu hangen arnoch.
  • Peidiwch â chyflwyno cais sy’n cynnwys newidiadau / marciau a gwiriwch eich sillafu a geiriau nad ydych yn siŵr ohonynt.
  • Gwnewch gopi o’r ffurflen gais fel y gallwch wneud drafft bras o’ch cais cyn cwblhau’r ffurflen wreiddiol.
  • Gwiriwch ac ail-wiriwch sut mae’r ddogfen orffenedig yn edrych.
  • Peidiwch â chynnwys unrhyw wybodaeth sy’n anghywir – os cewch y swydd mae’n fater difrifol os ydych wedi cynnwys gwybodaeth anghywir yn fwriadol ar eich ffurflen gais.
  • Rhaid i’r ffurflen gais gael ei harwyddo a’i dyddio.
  • Anfonwch y ffurflen i’r cyfeiriad sydd ar y ffurflen gais o fewn y terfynau amser.
  • Peidiwch â defnyddio’r un cais ar gyfer pob swydd – bydd angen ichi sicrhau bod eich cais yn addas i’r swydd rydych yn gwneud cais amdani – gall hyn olygu gwneud mân newidiadau yn unig, ond gallai hynny wneud gwahaniaeth!

 

 

Cyngor ar gyfer Cyfweliad

  • Cyn y diwrnod, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ble yn union mae’r cyfweliad yn cael ei gynnal.
  • Caniatewch ddigon o amser i chi gyrraedd y cyfweliad (o leiaf 20 munud) – bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ymlacio ac i baratoi.
  • Dysgwch gymaint ag y gallwch am y sefydliad a’r swydd rydych wedi gwneud cais amdani. Ceisiwch ragweld beth fydd rhai o’r cwestiynau a pharatowch atebion priodol ar eu cyfer.
  • Meddyliwch yn gadarnhaol – dim ond os ydych yn edrych fel eich bod am allu gwneud y swydd ar eich ffurflen gais y cewch chi gyfweliad – meddyliwch am yr holl resymau y dylech chi gael y swydd.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymarfer cyn y cyfweliad, drwy siarad amdanoch eich hun a’ch llwyddiannau ar lafar.
  • Dywedwch y gwir bob amser.
  • Paratowch ddatganiad amdanoch eich hun y bydd modd i chi ei ddefnyddio os cewch gyfle – eich cryfderau, yr hyn y gallwch ei gynnig i’r swydd, eich uchelgeisiau gyrfaol, ayb.
  • Edrychwch i lygaid y cyfwelydd – a chofiwch wenu!
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno’r wybodaeth orau amdanoch eich hun.
  • Peidiwch â bod ofn gofyn i’r cyfwelydd ailadrodd cwestiwn neu i egluro cwestiwn os nad ydych wedi ei ddeall yn llwyr.
  • Peidiwch â brysio i ateb cwestiynau, meddyliwch am yr hyn rydych am ei ddweud cyn ymateb.
  • Peidiwch â gwisgo’n rhy anffurfiol – mae cyfweliad yn ddigwyddiad ffurfiol.
  • Peidiwch â dweud celwydd mewn cyfweliad – mae’n fater difrifol os ydych yn cael y swydd a’i fod yna’n cael ei brofi eich bod wedi dweud celwydd yn y cyfweliad.
  • Peidiwch â gadael y cyfweliad heb gael gwybod beth sy’n digwydd nesaf – sut y byddwch yn cael gwybod y canlyniad.