Y Cyfleusterau Cyfarfod sydd ar gael yn y Parc Cenedlaethol
Gweler isod yr holl fanylion am yr ystafelloedd sydd ar gael a’r costau.
Mae ein system gwe-ddarlledu, ein hystafell gynhadledd a’n cyfleusterau eraill ar gael i’w llogi fesul awr neu ddiwrnod. Lleolir yr holl ystafelloedd yn ein prif swyddfa –
Plas y Ffynnon,
Ffordd Cambrian,
Aberhonddu,
Powys LD3 7HP.
Cysylltwch: roomhire@beacons-npa.gov.uk neu ffoniwch 01874 624437 am ragor o fanylion ac i holi a yw’r ystafelloedd ar gael.
Mae ffurflen archebu ar-lein ar gael yma.
Gofynnir i’r trefnwyr gadarnhau eu bod yn derbyn y Polisi Llogi Ystafell cyn cwblhau’r archeb.
Cliciwch ar y dolenni i gael rhagor o fanylion am yr ystafelloedd unigol:
- Ystafell gynhadledd – 36 o seddi a 30 arsyllwr
- Ystafell yr aelodau – yn seddi 20 o bobl ac man gyfarfod ychwanegol o gwmpas y bwrdd gyda 6 chadair
- Ystafell Ymgynnyll Bychan– 6 o seddi
- Ystafell hyfforddiant TG – 8 gorsaf cyfrifiadur personol
Fel arfer, bydd lluniaeth ar gael os ydych yn archebu ymlaen llaw.
Yn cynnwys cefnogaeth TG sylfaenol ac yna gefnogaeth ychwanegol ar gael am £23 yr awr am ragor o wybodaeth cysytwllch a’r
Gwe-ddarlledu
Gallwch ddarlledu’n fyw ar y we yn yr Ystafell Gynhadledd. Dyma ffordd newydd ac arloesol o ymgysylltu â’r cyhoedd a gallwn ni eich helpu gyda’r holl agweddau technegol sydd angen eu trefnu. Os nad ydych chi am we-ddarlledu, gallwn ffilmio’ch cyfarfod a rhoi copi DVD i chi ar y diwedd at ddibenion hyfforddi neu gyfeirio nôl at drafodaethau.
Costau
Rydym wedi nodi costau llogi’r ystafelloedd ar dudalen yr ystafell. Byddwn yn eich anfonebu ar ôl y cyfarfod. Mae’n well gennym dderbyn taliadau drwy BACS os yn bosib.
Cymorth TG – Yn cynnwys cymorth TG sylfaenol, ond petasech angen cymorth pellach, y bydd cost o £23 / awr.
Os nad ydych wedi derbyn cadarnhad o’ch archeb oddi wrth y tim Llogi Ystafelloedd, tu fewn 2 ddiwrnod ar o^l danfon eich ffurflen ar lein, cysylltwch a ni ar 01874 624437 neu ar e-bost roomhire@beacons-npa.gov.uk