Gweithio mewn Partneriaeth

Mae cymuned amrywiol, fywiog sy’n weithgar yn economaidd yn hanfodol.  Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gweithio mewn partneriaeth agos gyda chyrff cyhoeddus a chyrff preifat er mwyn helpu diwydiannau megis ffermio a thwristiaeth i ddatblygu mewn ffordd gynaliadwy sy’n gwarchod ac yn cynyddu nodweddion arbennig sy’n benodol i’r Parc Cenedlaethol.

Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau i gefnogi tirfeddianwyr a rheolwyr tir, ein busnesau twristiaeth lleol, ysgolion, busnesau a chymunedau’r Parc Cenedlaethol.