Ffeil Ffeithiau Geoparc y Fforest Fawr

Llinell Amser

  • Hydref 2005         daeth yn aelod o’r Rhwydwaith Geoparcau Ewropeaidd ac o Rwydwaith Byd-eang UNESCO o Geoparcau Cenedlaethol
  • Ionawr 2007         Penodwyd Swyddog Datblygu’r Geoparc
  • Medi 2008     cael ei ailddilysu yn llwyddiannus gan y Rhwydwaith Geoparcau Ewropeaidd

 

Partneriaid y Geoparc

  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
  • Arolwg Daearegol Prydain
  • Prifysgol Caerdydd
  • Mae partneriaid eraill yn cynnwys (ond ddim yn gyfyngedig i) Y Comisiwn Coedwigaeth, Prifysgol Abertawe, Cyngor Cefn Gwlad Cymry, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cymdeithas Ddaearegol De Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog,  Sefydliad Sleeping Giant, Fforwm Addysg Gwyddorau’r Ddaear Cymru, Twristiaeth y Bannau, Medrwn, Undeb Amaethwyr Cymru, Castell Craig-y-nos, Cymdeithas Gweithredwyr Tai Bync

 Rhwydwaith

 Arwynebedd

  • 763km sgwâr / 300 milltir sgwâr

 Lleoliad

  • Hanner gorllwinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ei hanfod. Mae’r ffiniau gogleddol, deheuol a dwyreiniol yn cydsynio â’r rheiny a ddarlunnir ar fapiau Arolwg Ordnans. Mae’r ffin ddwyreiniol yn mynd i’r gogledd o ardal Merthyr Tudful ar hyd Rheilffordd Mynydd Brycheiniog ym Mhontsticill, yna i’r gogledd drwy ‘Gap Road’ i Groesffordd.

Poblogaeth

  • 11,300, a 7,500 o’r rheiny yn Aberhonddu.  Mae cymunedau eraill yn cynnwys (ond heb eu cyfyngu i) Llanymddyfri, Llandeilo, Llangadog, Ystradgynlais/Abercraf/Glyntawe, Merthyr Tudful, Glanaman/Brynaman/Cwm Twrch ayb, Pontsenni/Defynnog, Penderyn, Hirwaun, Pontneddfechan, Ystradfellte, Myddfai.

Tiroedd uchel

  • Amrywio rhwng 27m / 89tr wrth Afon Tywi ger Llandeilo i 886m / 2907tr ym Mhen y Fan ym Mannau Brycheiniog.  Wyth copa yn uwch na 610m / 2000tr yn cynnwys Ban Brycheiniog 802m / 2631tr yn Y Mynydd Du a’r Fan Fawr 734m / 2409tr yn Fforest Fawr.

Cynulleidfaoedd targed

  • Ymwelwyr – bob math, o arbenigwyr i deuluoedd/cyffredinol
  • Preswylwyr – yn y Geoparc a dros y ffordd iddo
  • Addysgol – cynradd, uwchradd, trydyddol
  • Ieuenctid a’r gymuned, chwaraeon (ogofa, dringo ayb)

Daeareg

  • Cwaternaidd (Olion yr oes/oesoedd iâ –  clai clogfaen, mariannau, peirannau ayb a gwaddod ôl-rewlifol fel mawn, gorlifdir afon Wysg)
  • Carbonifferaidd (Mesurau Glo, Calch, Grut Melinfaen)
  • Dyfnantaidd (yn cyfateb ar y cyfan i ‘Hen Dywodfaen Coch’  – tywodfeini, cerrig llaid)
  • Silwraidd (cerig hŷn, caletach sydd yn aml ar ogwydd/yn ystumiedig yng ngogledd-orllewin y Parc)
  • Ordofigaidd (cerrig hynaf tua Llanymddyfri/Llandeilo)

Ardaloedd gweinyddol

  • Yn bennaf yn siroedd Powys a Sir Gâr ond yn cynnwys rhannau o awdurdodau unedol Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Mapiau Topograffig

  • Cynhwysir yr holl Geoparc ar fapiau Landranger 146, 159 a 160 (95% ar 160) yr Arolwg Ordnans
  • Cynhwysir y Geoparc cyfan ar fapiau Explorer 178, 186 ac OL12 (95% ar OL12) yr Arolwg Ordnans

1:50K Mapiau daearegol

  • Cwmpasir gan daflenni Arolwg Daearegol Prydain 212 (Llanymddyfri: i’w gyhoeddi yn fuan yn 2009), 213 (Aberhonddu), 230 (Rhydaman) a 231 (Merthyr Tudful).
  • Arolwg Daearegol Prydain i gynhyrchu map ‘Ardaloedd Clasurol’ 1:25K o ran ddeheuol y Geoparc, a map daearegol symlach o’r holl Geoparc yn 2009

Geolwybrau

  • Mae Arolwg Daearegol Prydain yn paratoi teulu o hyd at 20 llwybr cerdded wedi’u gwasgaru o gwmpas y Geoparc yn ystod 2009 i’w gwerthu am £1 yr un.

Manylion cyswllt

Alan Bowring, Swyddog Datblygu’r Geoparc

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Plas y Ffynnon

Ffordd Cambrian

Aberhonddu

Powys  LD3 7HP

 

Ffôn:       01874 620415 (uniongyrchol)

01874 624437 (switsfwrdd)

Ffacs:      01874 622574

E-bost: alan bowring

Gwe:    www.fforestfawrgeopark.org.uk