Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn galw am Nadolig cynaliadwy i bawb

Amser o roi yw’r Nadolig, ac eleni mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gofyn i ymwelwyr a phreswylwyr i roi yn ôl i’r blaned trwy wneud rhai dewisiadau’r Nadolig hwn.

Mae cyfnod y Nadolig yn ein gweld yn cynyddu ein gwariant o anrhegion a bwyd a diod, ac yn aml yn mynd yn rhy bell. Yn anffodus, mae’n golygu ein bod yn cael mwy o effaith ar ein hamgylchedd hefyd.

Bydd ein cyfanswm gwario a threulio ar fwyd, teithio, goleuadau ac anrhegion dros dridiau’r ŵyl yn golygu cymaint â 650kg o allyriadau carbon deuocsid y pen – sy’n cyfateb i bwysau 100 pwdin Nadolig!

Ond gallwn dal gael Nadolig da a bod yn garedig i’r blaned. Trwy feddwl ychydig bach gallwn leihau ein hôl troed carbon a chael amser da’r Nadolig hwn.

Mae’r Parc Cenedlaethol yn annog pobl i gymryd camau i fod yn fwy cynaliadwy dros y Nadolig trwy ddilyn y cynghorion hyn a ddarparwyd gan Institiwt Amgylchedd Stockholm:

Bwyd

  • Cefnogwch yr economi leol trwy brynu oddi wrth gyflenwyr organig lleol.
  • Compostiwch eich parion llysiau er mwyn sicrhau nad yw’r gwastraff organig hwn yn mynd i safle tirlenwi.
  • Cynlluniwch eich prydau bwyd yn ofalus er mwyn lleihau ar wastraff – gofynnwch faint o bobl sy’n hoffi ysgewyll Brwsel!

Teithio

  • Cynlluniwch eich teithio dros y Nadolig er mwyn lleihau’r pellter a deithir a cheisiwch ddefnyddiau dulliau caredig i’r amgylchedd neu rannu car.

Goleuadau

  • Mae llai o olau yn well golau Nadolig! Gall arddangosfa olau llai bod yn fwy chwaethus, a chofiwch ddiffodd y goleuadau cyn mynd i’r gwely, bydd yn arbed arian a charbon.

Siopa

  • Pan mae’n dod at anrhegion, prynwch anrhegion o safon. Bydd anrhegion sydd wedi ei gwneud yn dda yn para yn hirach, a ni fydd rhaid ei newid yn y flwyddyn newydd.
  • Does dim rhaid i anrheg Nadolig da, gostio llawer o arian. Meddyliwch am anrhegion amgen, sy’n cefnogi elusen neu sy’n dda i’r amgylchedd, profiad neu wirfoddoli amser.
  • Rhowch anrhegion na sydd eu hangen i elusen neu i hosbis neu Ysbyty lleol.

Trwy ddilyn y camau hyn, mae’n bosib lleihau ein hallyriadau CO2 hyd at dros 60%.

Am fwy o wybodaeth am newid hinsawdd yn y Parc Cenedlaethol, ewch at: Newid Hinsawdd