Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy – Ugain Mlynedd o Fuddsoddi Cymunedol Lleol!

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn galw ar grwpiau i gyflwyno eu syniadau am gyllid ar gyfer prosiectau cymunedol arloesol.

Mae Cronfa Datblygu Cynaliadwy y Parc Cenedlaethol wedi cefnogi cannoedd o brosiectau dros yr ugain mlynedd diwethaf gyda’r bwriad o wella ansawdd bywyd cymunedol, helpu’r economi leol a gwarchod yr amgylchedd lleol.  Roedd prosiectau’n cynnwys gweithgareddau awyr agored i wella iechyd a llesiant, cadwraeth natur, effeithlonrwydd ynni, siopau cymunedol a gwaith treftadaeth.

Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, mae’r gronfa wedi cynnig cefnogaeth ariannol i er mwyn cael ychydig o fentrau gwych ar y gweill yn y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys Melin Talgarth, Gŵyl y Dyn Gwyrdd a Choleg y Mynyddoedd Duon.

Eleni, mae’r Parc wedi lansio dwy raglen ariannu benodol – y ddwy’n cynnig grantiau hyd at 50% o’r costau (mae amser gwirfoddolwyr a rhoddion anariannol yn gallu cael eu cynnwys fel arian cyfatebol):
  • Effeithlonrwydd Ynni: cefnogaeth i osod mesurau arbed ynni neu ynni adnewyddol mewn adnoddau cymunedol – mae llawer o grwpiau eisoes wedi dechrau gosod goleuadau LED, insiwleiddio ychwanegol, gwresogi mwyaf diweddaf ayb yn eu hadeiladau
  • Treftadaeth Adeiledig: cefnogaeth i unigolion a grwpiau cymunedol i ymgymryd â gwaith i gadw a gwella asedau Treftadaeth leol – gall y rhain gynnwys adeiladau, nodweddion archeolegol, dehongli nodweddion hanesyddol, arwyddion ar gyfer llwybrau cerdded treftadaeth, cyhoeddiadau.

Meddai Barbara Anglezarke, Swyddfa Cronfa Datblygu Cynaliadwy, ‘Hoffwn glywed oddi wrth unrhyw un gyda syniadau ynghylch sut i wella pethau ar gyfer natur neu gymunedau lleol – hyd yn oed os yw’r cynlluniau yn y cyfnod cynnar.  Os nad ydych wedi ceisio am grantiau, does dim angen pryderu – rydym yma i helpu bob cam o’r ffordd!’

Bydd y Parc Cenedlaethol yn cynnal sesiwn wybodaeth ar lein i’r rhai â diddordeb mewn dysgu sut i ysgrifennu cais llwyddiannus am gyllid, ddydd Mawrth 18 Hydref.  Am ragor o wybodaeth am y gronfa neu i ymuno â’r sesiwn ewch at: https://sdfund.eventbrite.co.uk.

DIWEDD