Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Penodi Ysgrifenwyr Preswyl

Bydd dau ysgrifennwr yn taclo’r argyfyngau natur a hinsawdd yn ystod eu cyfnod preswyl

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mewn partneriaeth â Choleg y Mynyddoedd Duon a Gŵyl y Gelli wedi penodi dau ysgrifennwr preswyl ar gyfer 2022 – 23.  Mae’r penodiad preswyl arloesol yn un gyda diben; mae’n ceisio taclo dau o’r heriau mwyaf ein hoes.

Cafodd Rebecca Thomas ac Owen Thomas eu dewis allan o dros 130 o ymgeiswyr i ddarparu prosiectau sy’n talu sylw i’r argyfyngau natur a hinsawdd. Mae storïau’n allweddol i ysbrydoli gweithredu i amddiffyn ein dyfodol ar y cyd. Cafodd Rebecca ei phenodi fel yr ysgrifennwr yn y Gymraeg ac Owen fel yr ysgrifennwr yn Saesneg. Bydd pob ysgrifennwr yn derbyn £10,000 i gyflwyno’u gwaith a ge i arddangos yng Ngŵyl y Gelli 2023, 25 Mai-4 Mehefin.

Mae Rebecca yn ysgrifennwr ac yn ymchwilydd i’r Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd yn darparu cyfres o draethodau creadigol nad ydynt yn ffuglen a llyfr plant fel rhan o’i chyfnod preswyl. Mae Owen yn ddramodydd sy’n bwriadu datblygu cynhyrchiad theatr a fydd yn cael ei berfformio ar ddiwedd y cyfnod preswyl. Bydd y ddau ysgrifennwr yn cyflwyno rhaglen o weithgaredd i ymgysylltu’r cyhoedd gyda’u gwaith a’r amgylchedd naturiol.

Meddai Rebecca, ‘Mae’n fraint ac yn anrhydedd i gael fy mhenodi’n Ysgrifennwr Preswyl Bannau’r Dyfodol. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn agos iawn at fy nghalon ac rwy’n edrych ymlaen at gynhyrchu gwaith sydd wedi’i ysbrydoli gan y lle arbennig hwn. Ers symud yn ôl i dde Cymru, rwyf wedi cael y pleser o ddarganfod ac ail ddarganfod tirwedd y Parc ac mae archwilio’r ardal hon wedi fy ysgogi i fynd i’r afael â’r argyfyngau presennol trwy ysgrifennu creadigol. Rwy’n gyffrous iawn gan y cyfle i ddal ati i archwilio a dysgu ac i rannu fy mhrofiadau gyda chynulleidfaoedd newydd.

‘Heb os, yr argyfyngau natur a hinsawdd yw’r heriau mwyaf ein hoes. Mae llenyddiaeth yn darparu cyfle i ymateb i’r bygythiadau hyn ac i hyrwyddo newid. Rwy’n awyddus i ddysgu rhagor am amgylchedd hanesyddol y parc ac i weithio’n agos gydag ysgolion yr ardal i gynnwys pryderon ac ymatebion cynulleidfaoedd iau.’

Meddai Owen, ‘Cefais fy magu ar fferm ym Mannau Brycheiniog a breuddwydio am ddod yn ysgrifennwr rhyw ddydd. Mae’n anodd ei roi’n eiriau pa mor falch ydwyf i gael fy enwi’n un o’r Ysgrifenwyr Preswyl Bannau Brycheiniog cyntaf. Roedd  y mynyddoedd yn gyfaill parhaus o ffenestr llofft fy mhlentyndod. Mae’n fraint cael adrodd eu stori.

‘Mae’r Bannau Brycheiniog yn hudol ac yn unigryw. Bydd y ddrama hon yn ceisio dal eu harddwch eithriadol a’u bregusrwydd. Bydd yn dathlu eu gorffennol, yn archwilio’u presennol ac yn ystyried eu dyfodol, yn harneisio ac yn defnyddio doniau a storïau pawb sy’n gallu’r lle arbennig hwn eu cartref.’

Meddai Jodie Bond, Rheolwr Materion Cyhoeddus y Parc Cenedlaethol, “Rydym wrth ein bodd yn cynnig y cyfle hwn i ddau ysgrifennwr gwych. Mae creadigrwydd yn eistedd wrth galon ein cynllun rheoli newydd. Rydym angen canfod y ffyrdd gorau o ymgysylltu â’n hymwelwyr a thrigolion gyda’r problemau mwyaf ein hoes. Mae storïau’n gallu helpu ffurfio syniadau a’n hysbrydoli i ymddwyn mewn ffyrdd a fydd nid yn unig yn helpu amddiffyn ein tirwedd werthfawr a’r bywyd gwyllt sy’n ei alw’n gartref, ond hefyd dyfodol dynoliaeth.”

Dywedodd Ben Rawlence, Cyfarwyddwr Sefydlu Coleg y Mynyddoedd Duon, “Dychmygu’r dyfodol yw’r cam cyntaf i’w wireddu ac mae adrodd straeon yn allweddol i’r dasg honno. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r awduron cyntaf o Fannau’r Dyfodol.”

Bydd y ddau ysgrifennwr yn dechrau ar eu cyfnod preswyl ym mis Medi. Bydd manylion eu cynnydd ar gael ar beacons-npa.gov.uk  neu wrth ddilyn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar y cyfryngau cymdeithasol.

DIWEDD

Am gyfweliadau gyda’r awduron, cysylltwch â Jodie Bond ar Jodie.Bond@Beacons-npa.gov.uk neu ffoniwch 07969429493.