Geobarc Byd-eang UNESCO Fforest Fawr yn Ennill Cerdyn Gwyrdd

Yr wythnos hon, dyfarnodd Cyngor Geobarciau Byd-eang UNESCO gerdyn gwyrdd i Geobarc Fforest Fawr, ei anrhydedd ail-ddilysu pennaf. 

Darn o dir yw Geobarc Fforest Fawr yn rhan orllewinol Bannau Brycheiniog.  Ei ddiben yw rheoli tirwedd o arwyddocâd cenedlaethol, rhyngwladol a daearegol, gan ganolbwyntio ar warchod, addysgu a datblygu cynaliadwy.    Mae cydweithredu’n rhyngwladol trwy rwydweithio gyda Geobarciau Byd-eang UNESCO eraill hefyd yn ganolog i’w ddiben.  

Bob pedair blynedd, mae ansawdd y gwasanaethau sy’n cael eu darparu ym mhob Geobarc Byd-eang UNESCO’n cael ei ailasesu mewn proses o ail-ddilysu sy’n cynnwys cyflwyno adroddiad cynnydd ac archwiliad maes gan ddau ddilysydd wedi’u dewis o “Restr Swyddogol” dilyswyr Geobarciau Byd-eang UNESCO.  

Dynodwyd Fforest Fawr yn Geobarc Ewropeaidd a Byd-eang gyntaf yn 2005, ac ers hynny mae wedi ennill pedwar cerdyn gwyrdd, sy’n ei wneud yn batrwm i’r teulu Geobarc Byd-eang.  Mae’n un o ddau geobarc yng Nghymru, un o 8 yn y DU, un o dros 80 yn Ewrop ac un o dros 160 yn fyd-eang.

Cyflwynodd yr arbenigwr a oedd yn gwerthuso Geobarc Fforest Fawr fis Tachwedd 2021 adroddiad a arweiniodd at Gyngor Geobarciau Byd-eang UNESCO’n dyfarnu’r wobr o’r cerdyn gwyrdd.

Meddai Alan Bowring, Swyddog Geobarc Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, “Yn ystod yr ail-ddilysu, fe gyflwynon ni’r beirniaid i lawer o bartneriaid a phwyllgorau rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda nhw.  Rydyn ni wrth ein bod ein bod wedi ennill cerdyn gwyrdd arall unwaith eto.  Rydyn ni’n hynod o falch o’n statws UNESCO ac yn cael pleser mawr yn rhannu ei nodweddion arbennig gydag ymwelwyr, tra’n sicrhau ei fod yn lle bywiog, ffyniannus a chynaliadwy i fyw ynddo.”

Meddai Dr Tony Ramsay, Cyfarwyddwr Gwyddonol Geobarc Fforest Fawr, “Trwy ddyfarnu cerdyn gwyrdd mae Cyngor Geobarciau Byd-eang UNESCO’n cydnabod y bydd Geobarc Fforest Fawr, trwy fodloni’r meini prawf a ddisgwylir, yn parhau’n Geobarc Byd-eang UNESCO am gyfnod arall o bedair blynedd.  Mae’r wobr yn her ac yn gyfle i ddatblygu’r Geobarc ac i gydweithredu gyda Geobarciau Byd-eang UNESCO i ymateb i’r argyfwng sy’n cael ei greu gan newid hinsawdd byd-eang a llawer iawn o’i ganlyniadau.

Un o binaclau’r daith ail-ddilysu oedd ymweliad â chanolfan Geobarc newydd ym Mharc Gwledig Craig y Nos.  Ariannwyd Pwynt Darganfod y Geobarc gan gyn gynllun Interreg yr Iwerydd yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.  Mae’n cynnwys nifer o arddangosfeydd awyr agored sy’n trafod hanes a daeareg yr ardal.  Mae’r arddangosfeydd hyn y gwahodd ymwelwyr i gysylltu â phob cornel o diriogaeth hardd a dramatig y Geobarc.

Efallai y bydd y rhai sy’n awyddus i gael profiad o’r Geobarc â diddordeb mewn ap sydd newydd ei lansio sy’n arwain cerddwyr trwy olygfeydd godidog yr ardal.  Mae rhagor o wybodaeth ynghylch Geoparc Byd Eang UNESCO Fforest Fawr ar: https://www.geoparcyfforestfawr.org.uk/

DIWEDD