CANNOEDD O OLEUWYR YN CREU GWAITH CELF AR RADDFA FAWR YN FANNAU BRYCHEINIOG FEL RHAN O DDATHLIADAU CREADIGRWYDD LEDLED Y DU

Gan ymgynnull yn y cyfnos ddydd Mercher 6 Gorffennaf, daeth cannoedd o gyfranogwyr, o bob math o gefndir, ynghyd ym mharc gwledig hanesyddol Craig-y-Nos ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gyfer Goleuo’r Gwyllt. Wedi’i ddatblygu gan arbenigwyr celf awyr agored Walk the Plank, mae Goleuo’r Gwyllt yn rhan o UNBOXED: Creativity in the UK rhwng mis Ebrill a mis Medi 2022.

Gan ddefnyddio geo-olau effaith isel a ddyluniwyd gan Siemens drwy geoparc Fforest Fawr, helpodd Goleuwyr i greu gwaith celf ar raddfa fawr, dathlu byd natur a dathlu hawl pawb i archwilio cefn gwlad. Dyma’r ail ddigwyddiad i ddigwydd yng Nghymru, gyda miloedd o bobl yn cymryd rhan ledled y DU.

Gwahoddwyd y cyfranogwyr i ddod â’u picnic eu hunain i’w fwynhau wrth i’r haul fachlud tra’n gwrando ar seinweddau hudolus wedi’u curadu gan yr artist lleol Tayla-Leigh Payne, a ysbrydolwyd gan dirwedd syfrdanol Bannau Brycheiniog a’r canwr opera Fictoraidd byd-enwog Madame Patti, a wnaeth Craig-y-Nos yn gartref iddi. Roedd y Goleuwyr hefyd yn cymryd rhan mewn dilyniant coreograffi unigryw a oedd yn cael ei arwain a’i berfformio gan y bardd a’r artist geiriau TeiFi a grŵp dawns Kitsch n Sync Collective.

Roedd y digwyddiad yn canolbwyntio ar hawliau a chyfrifoldebau ymwelwyr y Parc Cenedlaethol. Cynhaliodd staff y parc weithdai yn ystod y digwyddiad a buont yn rhan o ddatblygiad creadigol y cynhyrchiad.

Cafodd yr antur greadigol drawiadol ei ffilmio a bydd ar gael i’w gweld am ddim ar wefan Goleuo’r Gwyllt a sianeli cyfryngau cymdeithasol yn fuan ar ôl y digwyddiad. Digwyddiadau nesaf Goleuo’r Gwyllt yw Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn (6 Awst), a’r Wyddfa / Snowdon, Parc Cenedlaethol Eryri / Snowdonia National Park (Medi 2022).

Ni fydd yr Wyddfa yn cynnwys cyfranogaeth gan y cyhoedd. Bydd yn cael ei ffilmio fel rhan o’r diweddglo mawreddog a fydd yn cael ei ddarlledu ar BBC Countryfile, ynghyd â’r tri copa uchaf arall yn y DU.

Gwahoddir pawb, gan gynnwys Goleuwyr, i rannu eu cysylltiadau eu hunain â’r dirwedd a’r ardaloedd lleol drwy Straeon Goleuo’r Gwyllt, archif stori ar-lein am ddim, a fydd, gyda’r ffilmiau byr, yn creu etifeddiaeth werthfawr i unrhyw un sydd â diddordeb yn ein perthynas â thir a’n cyfrifoldebau i’r dirwedd.

– DIWEDD –