Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Yn Hawlio Ei Enw Cymraeg

Diweddarwyd 15 Mehefin

  • Enw swyddogol y Parc Cenedlaethol yw Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
  • “Hen enw am ffordd newydd o fod” meddai Michael Sheen
  • Y Parc yn anelu i fod yn net sero erbyn 2035
  • Cynlluniau mawr i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth

Mae un o Barciau Cenedlaethol Prydain yn hawlio ei enw Cymraeg. Bydd y Parc Cenedlaethol yn cyfeirio ato’i hun fel Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a ddim yn defnyddio’r enw Saesneg Brecon Beacons.

Daw’r enw newydd yn effeithiol o heddiw – penblwydd y Parc yn 66oed.

Daw’r enw o’r lluosog o ‘ban’ yn golygu ‘copa’ tra bod |Brycheiniog yn cyfeirio at hen deyrnas y brenin Brychan. Copaon Teyrnas Brychan.

Gyda chadwyn fynyddoedd y Bannau ond yn rhan fechan o ddaearyddiaeth y Parc a hanes yn nodi dim tystiolaeth o losgi coelcerthi ar y copaon, teimlwyd bod angen teitl mwy addas i adlewyrchu y dreftadaeth Gymreig a Chymraeg.

Mae’r newid yn rhan o weithredu y cynllun rheoli sy’n ceisio ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth ac ymateb yn uniongyrchol i’r problemau mawe’r Parc yn ei wynebu.

Mae cyfres o brojectau ar y gweill gyda sefydliadau partner i geisio rhwystro a gwyrdori effaith newid hinsawdd ar y Parc 520 milltir sgwar. Mae’r cynllun yn Cynnwys:

  • Adfer 16,000 hectar o fawndiroedd
  • Planu miliwn o goed
  • Gwella ansawdd dŵr, gan gynnwys cael afonydd i safon ansawdd dŵr ymdrochi ar draws y Parc
  • Ffocws ar ffermio cynaliadwy ar gyfer economi bwyd lleol gwell
  • Adferiad poblogaeth y gylfinir
  • Creu coridorau bywyd gwyllt i gysylltu cynefinoedd
  • Gorlifdiroedd i ddal dŵr, gan annog planhigion amrywiol i ffynnu er mwyn storio carbon a maetholion
  • Atebion trafnidiaeth cynaliadwy, gan gynnwys cynlluniau peilot parcio a theithio rhwng Merthyr Tudful ac Aberhonddu
  • Annog pawb i fyd natur

Dywedodd Prif Weithredwr, Catherine Mealing-Jones:

“Gyda phedair miliwn a mwy o ymwelwyr yn ymweld â’r Bannau bob blwyddyn, rydyn ni’n gwybod na allwn ni osod ffens o amgylch natur – mae’n rhaid i ni fod yn rhagweithiol. Mae ein cynllun rheoli newydd yn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yn uniongyrchol wrth i ni drosglwyddo i sero net erbyn 2035. Bydd camau’n cael eu cymryd ar draws y Bannau i adfer gallu byd natur i ddal carbon o’r atmosffer.

“Rydym am greu lleoedd ffyniannus a chynaliadwy sy’n cael eu dathlu am eu treftadaeth ddiwylliannol a naturiol. Os byddwn yn gwneud hyn yn iawn, gall Bannau Brycheiniog fod yn esiampl i Barciau Cenedlaethol eraill eu dilyn.

“Mae adennill ein hen enw yn adlewyrchu ein hymrwymiad i’r Gymraeg, ond rydym yn deall bod pobl wedi arfer galw’r Parc wrth yr enw mae pawb yn ei ddefnyddio ers 66 mlynedd felly nid ydym yn disgwyl i bawb ddefnyddio Bannau Brycheiniog, o leiaf yn syth.”

Helpodd yr actor Cymreig Michael Sheen i lansio’r cynllun mewn ffilm fer a ysgrifennwyd gan yr awdur Owen Sheers.

Dywedodd Michael Sheen: “Mae gan Barciau Cenedlaethol rôl hanfodol i’w chwarae wrth ddarparu ar gyfer natur, ar gyfer pobl, ac ar gyfer ein dyfodol cyffredin. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn darparu cymaint mwy na harddwch ac ysbrydoliaeth.

“Maen nhw wedi’u buddsoddi mewn darparu dyfodol teg a chynaliadwy i bawb, gyda chynllun sydd â natur yn ganolog iddo sy’n ceisio sicrhau bod anghenion cymdeithas yn cael eu diwallu o fewn ffiniau ein planed. Mae’n nodi newid sylweddol yn y ffordd y gall parciau cenedlaethol weithredu. Rwy’n falch iawn o’u gweld yn wynebu eu heriau yn uniongyrchol ac yn croesawu adennill yr hen enw Cymraeg – hen enw ar ffordd newydd o fod.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.bannau.cymru

DIWEDD

Gellir dod o hyd i wybodaeth am y cwestiynau a ofynnir amlaf am y Cynllun Rheoli a’r hunaniaeth gorfforaethol ar y ddolen isod:

Cwestiynau cyffredin yn ymwneud â’r ail-frandio a’r cynllun rheoli | Bannau Brycheiniog National Park Authority