Gwawr newydd i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wrth ddatgelu tîm arweinyddiaeth newydd

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dechrau ar gyfnod newydd cyffrous wrth gyhoeddi tîm arweinyddiaeth newydd sbon, sy’n cynnwys peth o dalent gorau’r DU.

Ymunodd Catherine Mealing-Jones  fel Prif Weithredwr y llynedd. Cyn hynny, roedd Catherine yn Gyfarwyddwr Asiantaeth Gofod y DU a’r Swyddfa Gartref, mae’n dod â chyfoeth o brofiad gyda hi ac mae’n cymryd camau newydd eofn ar ran y Parc. Er mwyn ei helpu i wireddu ei gweledigaeth o ddyfodol bywiog a chynaliadwy i’r Parc Cenedlaethol, mae wedi recriwtio tîm arweinyddiaeth newydd.

Bydd y tair swydd newydd yn ymuno a’r tîm gweithredol:

Mae Rotimi Akinsiku wedi’i benodi fel Rheolwr Rhaglenni a Phortffolio. Mae’n ymuno â’r Parc o Sefydliad Seilwaith Amddiffyn ble mae’n Rheolwr Rhaglenni.  Meddai Rotimi, ‘Rwy hynod falch o  ymuno â’r Parc Cenedlaethol ac yn edrych ymlaen at gyfarfod â phawb. Yn fy mhrofiad i, mae cydweithredu ac adeiladu perthynasau cryf yn gynhwysion allweddol ar gyfer gwireddu canlyniadau llwyddiannus. Mae natur yn agos at fy nghalon ac rwy’n edrych ymlaen yn enfawr at gychwyn arni.’

Penodwyd Gareth Jones yn Gyfarwyddwr Cynllunio a Lle. Mae’n ymuno â’r Parc o Gyngor Sir Powys, ble roedd yn Arweinydd Proffesiynol ar Adfywio.  Meddai Gareth, “Rwyf wrth fy modd yn cael cynnig y swydd hon ac rwy’n edrych ymlaen at y gwaith newydd. Mae’r 18 mis diwethaf wedi hoelio sylw ar rôl hanfodol y Parc Cenedlaethol ac rwy’n edrych ymlaen at chwarae rhan yn ei alluogi i gyflawni ei ddiben a’i botensial.

‘Rwy’n gobeithio dod â phrofiad ac uchelgais er mwyn helpu i gyflawni’r canlyniadau a’r cyfleoedd gorau ar gyfer ei dirwedd a’i gymunedau. Yn gweithio ym Mhowys, rwy’n ymwybodol iawn o’r tîm ymroddedig a’r ymarfer da sydd eisoes yn yr awdurdod.  Rwy’n bwriadau gweithio’n gydweithredol ar draws y sefydliad a chyda rhanddeiliaid er mwyn parhau i adeiladu ar y sylfaeni ardderchog hyn a helpu i gefnogi gweledigaeth y dyfodol ar gyfer y Parc.

Penodwyd Simone Lowthe-Thomas yn Gyfarwyddwr Adfer Natur a Newid Hinsawdd. Mae hi’n ymuno â’r Parc o Asiantaeth Ynni Hafren Gwy ble roedd yn Brif Weithredwr. Meddai Simone, ‘Mae Bannau Brycheiniog yn lle unigryw ac arbennig i mi. Dyma ble rwy’n byw ac yma rwy’n teimlo synnwyr o berthyn. Rwyf wedi treulio fy mywyd yn bersonol ac yn broffesiynol yn gweithio i warchod a gwella ein hamgylchedd naturiol ond hefyd gyda chymunedau i ddatblygu atebion cynaliadwy i ddatblygu a llesiant. Felly, roedd y swydd hon yn serennu fel cyfle anhygoel i ddefnyddio fy sgiliau dros achos rwy’n angerddol drosoto. Rwyf wrth fy modd yn ymuno â’r tîm ac yn gwireddu’r diben rydyn ni’n ei rannu, gyda’n gilydd.”

Daw pob un o’r tri â phrofiad amlwg a fydd yn helpu i gyflawni Bannau’r Dyfodol, cynllun rheoli’r Parc Cenedlaethol yn ystod yr 20 mlynedd nesaf.

Ychwanegodd Catherine, ‘Mae penodi ymgeiswyr i’r swyddi hyn yn rhan hanfodol o’r broses o ddarparu’r gallu arweinyddol a’r sgiliau gofynnol i yrru gweithredu Bannau’r Dyfodol yn ei flaen yn 2022 a thu hwnt. Rwyf wrth fy modd gyda’r tîm a benodwyd ac yn teimlo’r ynni a’r cyffro wrth feddwl am weithio gyda nhw er mwyn darparu dros bobl a’r blaned.’

DIWEDD