Ymgynghoriad yn lansio ar Gynllun Gweithredu Amgylchedd |Hanesyddol Bannau Brycheiniog

Mae Partneriaeth Amgylcheddol Hanesyddol i’r Parc Cenedlaethol wedi ei gychwyn, gyda’r dasg o baratoi cynllun gweithredu i hyrwyddo dealltwriaeth, amddiffyn a rheoli’r amgylchedd hanesyddol. Mae draft o’r cynllun bellach wedi ei gyhoeddi ac mae’n agored i ymgynghoriad gan y cyhoedd am gyfnod o chwe wythnos.

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn un o dirweddau gorau a mwyaf gwerthfawr Cymru. Gellir olrhain hanes pobl yn y dirwedd filoedd o flynyddoedd yn ôl o’r helwyr gasglwyr cyntaf hyd at yr ugeinfed ganrif. Mae’r Parc Cenedlaethol wedi etifeddu treftadaeth adeiladu ac archeolegol werthfawr. Mae olion cyntefig yn tystiolaethu i arferion bywyd a marwolaeth i’w gweld yn ucheldir y Parc.

Mae gan y Parc filoedd o asedau sydd wedi eu cofnodi o fewn ei ffiniau. Mae bron i 17,000 ased ar y Cofnod Amgylcheddol Hanesyddol, sy’n cynnwys 359 safle archeolegol a gydnabyddir i fod o bwysigrwydd cenedlaethol ac a ddiogelir ar gyfer y genedl. Wyth Amgylchedd o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig a 18 Parc a Gardd Hanesyddol sydd gyda’r gorau yng Nghymru. Bron i 2000 Adeilad Rhestredig, pum Ardal Gadwraeth, a llawer mwy o leoliadau pwysig lleol, sy’n cyfrannu at werth hanesyddol a phensaernïol y Parc Cenedlaethol.

Mae treftadaeth yn bwysig iawn i Gymru. Mae’n creu gwaith i tua 40,000 o bobl ac yn bwysigrwydd economaidd i’r sector dwristiaeth: mae ffigyrau yn dangos  o’r 75 miliwn ymwelydd dydd i Gymru yn 2019, roedd 27 miliwn wedi eu hysgogi i ymweld â’r amgylchedd hanesyddol.

Mae pawb sydd berchen, yn rheoli ac yn ymweld â safleoedd hanesyddol a hynafol yn gyfrifol am helpu eraill ei ddiogelu. Mae  gweithio mewn partneriaeth gydag eraill, cymunedau ac ymwelwyr yn hanfodol wrth hyrwyddo dealltwriaeth, cadwraeth a dathlu ein hamgylchedd hanesyddol a’n treftadaeth ddiwylliannol.

Amcanion y cynllun yw:

  1. Diffinio casgliad o amcanion a rennir ac ymrwymo i’w cyflwyno
  2. I hyrwyddo rheolaeth cadwraeth yr amgylchedd hanesyddol
  3. i ymglymu gyda chymunedau ac ymwelwyr wrth hyrwyddo dealltwriaeth o’r amgylchedd hanesyddol a threftadaeth ddiwylliannol y Parc
  4. i wella’r cydweithio, adnoddau a’r gallu er mwyn cefnogi projectau i ehangu, rheoli, ymchwilio, monitro a dathlu amrywiaeth brydferth a chymeriad yr amgylchedd hanesyddol a’r dreftadaeth.

Dwedodd Catherine Mealing-Jones, Prif Weithredwr y Parc Cenedlaethol, “ Rhan o lawenydd ein hanes yw gweld sut mae pethau yn esblygu a newid. Mae terfyn ar yr adnoddau hanesyddol; unwaith y distrywir nhw maent wedi eu colli am byth. Mae difrod, esgeulustod a cholli, yn cynnwys colli mynediad at yn gallu cael effaith sylweddol ar safleoedd hanesyddol. Mae ymrwymiad i reoli newid yn gofalu yn angenrheidiol fel ein bod yn amddiffyn yr hyn sy’n bwysig ac yn arbennig am ein hasedau hanesyddol.

“Mae gan yr amgylchedd hanesyddol ran allweddol i chwarae mewn cyfrannu at adfer natur, ac wrth bontio i ddyfodol sy’n garbon niwtral. Mae parhau i amddiffyn archeoleg a thirwedd hanesyddol y parc yn dibynnu ar reoli sympathetig gan bawb sy’n rhan o weithgareddau yn y parc. Rydym eisiau gweithio ar y cyd ar hyn, gan annog pobl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.”

I ddarllen draft o’r cynllun a rhoi adborth i’r Bartneriaeth Amgylchedd hanesyddol, ewch at: Cynllun Gweithredu’r Amgylchedd Hanesyddol

DIWEDD