Lansio Ymgynghoriad ar Gynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys

Mae ymgynghoriad ar Gynllun Llesiant newydd Powys yn cael ei lansio heddiw (dydd Gwener 27 Ionawr) a bydd yn cael ei gynnal tan hanner nos 19 Ebrill.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn ei gwneud yn ofynnol i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ledled Cymru i baratoi Cynllun Llesiant lleol sy’n rhoi manylion cynlluniau i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol, a diwylliannol ein cymunedau.

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys yn gyfrifol am ddatblygu Cynllun Llesiant lleol ar gyfer yr ardal i helpu trigolion Powys i gyflawni eu nodau llesiant.  Er mwyn cyflawni’r uchelgais “Powys Deg, Iach a Chynaliadwy”, gosodwyd yr amcanion isod sef nodau craidd y cynllun:

  • Bydd pobl ym Mhowys yn byw bywydau hapus, iach, a diogel
  • Mae Powys yn sir o fannau a chymunedau cynaliadwy
  • Gwasanaeth Cyhoeddus gynyddol effeithiol i bobl Powys

Meddai’r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys a Chadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys: “Yn dilyn y gwaith asesu llesiant y llynedd, a gweithgareddau ymgysylltu yn ymwneud â hyn, rydym wedi datblygu darlun cynhwysfawr o lesiant pobl a chymunedau lleol ar draws Powys ac rydym wedi’i ddefnyddio i greu cynllun llesiant mwy diweddar.

“Fel Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, rydym wedi ymrwymo i gymryd camau rhagweithiol i gefnogi’r sir a’i phobl, sydd nid yn unig yn gwasanaethu anghenion y sefyllfa a’r boblogaeth bresennol ond sy’n berthnasol ac yn briodol i anghenion a dymuniadau cenedlaethau’r dyfodol.

“Hoffwn annog pawb i ddarllen y cynllun llesiant diweddaraf ar gyfer Powys ac i lenwi’r arolwg.  Bydd eich barn yn ein helpu i benderfynu pa mor dda mae’r amcanion a’r cynllun drafft newydd wedi cael eu derbyn, a beth efallai sydd angen ei newid er mwyn i ni allu gwneud  yn siŵr bod y cynllun terfynol yn gweithio i bobl Powys. ”

Hefyd yn ystod y cyfnod hwn o ymgysylltu â’r cyhoedd, mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi bod yn ymgysylltu ag ysgolion i roi cyfle i bobl ifanc y sir i gefnogi datblygiad y cynllun llesiant drwy ofyn iddynt gynhyrchu celf neu farddoniaeth yn seiliedig ar y thema “Pa olwg yr hoffech ar ddyfodol Powys?”.

Bydd y gwaith yn cael ei gynnwys mewn cystadleuaeth ar draws y sir yn y categorïau isod:

  • Barddoniaeth Blynyddoedd Cynnar a Chynradd
  • Celf Blynyddoedd Cynnar a Chynradd
  • Barddoniaeth Uwchradd
  • Celf Uwchradd

Croesawir ceisiadau gan unrhyw un sydd eto i gymryd rhan drwy ei bostio at:

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys,
Neuadd y Sir,
Llandrindod
LD1 5LG

Neu drwy e-bostio powyspsb@powys.gov.uk

Bydd enillwyr y gerdd orau a’r gwaith celf gorau fesul categori sydd wedi’u rhestru uchod (yn cael eu cyhoeddi mis nesaf), gyda’r enillwyr yn cael sylw o fewn y Cynllun Llesiant newydd.

I ymateb i’r ymgynghoriad ac am fwy o wybodaeth ewch i

https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/arolwg-cynllun-llesiant-powys neu e-bostiwch powyspsb@powys.gov.uk .

Am fwy o wybodaeth ynghylch Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys a’r cynllun llesiant, ewch i dudalen we llesiant Powys:

https://cy.powys.gov.uk/cynaliadwyedd

DIWEDD