Bannau Brycheiniog i achub y gylfinir eiconig

Heddiw (22 Tachwedd) mae Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Adfer y Gylfinir yn cael ei lansio, un o flaenoriaethau pennaf cadwraeth adar y DU. 

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw’r man mwyaf deheuol yn y DU lle mae’r rhywogaeth eiconig hwn o adar yn nythu a bydd yr ardal yn chwarae rhan allweddol yn ei adfer.  Mae rhan o’r Parc Cenedlaethol wedi’i ddynodi’n Ardal Bwysig i’r Gylfinir ac mae cynlluniau ar y gweill i amddiffyn yr aderyn hoffus hwn.

Mae hyd at chwarter o boblogaeth nythu’r byd o’r gylfinir i’w canfod yn rheolaidd yn y DU.  Mae’r aderyn yn enwog am ei gri hudolus ac am ei big hir, cam sydd yn gafael fel gefail yn y bwyd y mae’n chwilio amdano a’i ganfod yn y llaid.

Mae poblogaeth y gylfinir yng Nghymru wedi gostwng  81% ac yn dal i ostwng 6% y flwyddyn.  Gallai fod wedi diflannu’n llwyr o’r wlad erbyn 2033.

Mae’r cynllun gweithredu, sy’n cael ei lansio heddiw, wedi’i ysgrifennu gan bartneriaeth gref sy’n cynnwys y llywodraeth, sefydliadau cadwraeth a rheolwyr tir.  Mae’r cynllun yn darparu nid yn unig ar adfer y gylfinir ac 87 o rywogaethau eraill, cysylltiedig, ond mae hefyd yn ein symud ymlaen at reoli tirwedd hinsawdd-gadarn ar gyfer busnesau, pobl a natur.  Mae’r lansiad wedi denu cefnogaeth o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol, gan gynnwys Julie James AoS (Y Gweinidog dros Newid Hinsawdd), Janet Finch-Saunders (Gweinidog Cysgodol Ceidwadol dros Newid Hinsawdd), Delyth Jewell (Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Newid Hinsawdd, Ynni a Thrafnidiaeth) a Mark Isherwood AoS (Hyrwyddwr Gylfinir).

Meddai Nicky Davies, Ecolegydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ‘Rydyn ni wrth ein bodd yn dod yn Ardal Bwysig i Gylfinir.  Yn y misoedd sydd o’n blaenau, byddwn yn ystyried sut y gallwn ni gydweithio i warchod y rhywogaeth eiconig hwn yn y Parc Cenedlaethol.  Mae ei gri, a oedd i’w glywed unwaith dros Gymru gyfan, yn gwneud i gymaint ohonom stopio’n stond.  Mae Cymru’n haeddu clywed y gri’n atseinio unwaith eto.’

Mae Bannau Brycheiniog yn gweithio gydag 11 o Ardaloedd Pwysig i Gylfinir eraill ledled Cymru i warchod y trysor hwn o aderyn yn awr ei angen mwyaf.  Mae’r cynllun gweithredu’n cynnwys cynigion ar gyfer gweithredu’r mesurau ymyrryd a’r asesu, monitro ac adrodd yn ôl yn erbyn meini prawf perfformio penodol.

Mae’r Cynllun Gweithredu Rhywogaeth Sengl Cymru ar gyfer y gylfinir yn cynnwys fframwaith ar gyfer cadwraeth gylfinir sy’n nythu, dros ddeng mlynedd o weithredu (2021 – 2031), ac i sefydlogi’r gostyngiad yn nifer y gylfinir yn nythu rhag gwireddu’r ofn y bydd wedi diflannu’n llwyr o Gymru erbyn 2033.

DIWEDD