Safleoedd ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn ennill Statws Gwenyn Gyfeillgar

Mae’r Canolfannau Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Libanus a Pharc Gwledig Craig-y-nos yng Nghwm Tawe Uchaf wedi llwyddo yn eu cais i ddod yn Wenyn Gyfeillgar.  Gyda’i gilydd, maen nhw’n ymuno â sefydliadau a chymunedau eraill ar draws y genedl sy’n gweithredu i wneud Cymru’r wlad pryfed cyfeillgar gyntaf yn y Byd. 

Menter yw Gwenyn Gyfeillgar gan Dasglu’r ‘Cynllun Gweithredu Pryfed Peillio’ sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i helpu’r holl bryfed peillio, nid dim ond gwenyn, y mae’u niferoedd yn gostwng. Gyda chymorth Hyrwyddwr Gwenyn Gyfeillgar a Swyddog Gweithredu Partneriaeth Natur Lleol Bannau Brycheiniog, Maria Golightly, mae rheolwyr safleoedd ym mherchnogaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi llwyddo i gyrraedd cyfres o nodau oedd eu hangen i ennill statws Gwenyn Gyfeillgar.

I gyrraedd y nod cyntaf, darparu ffynonellau o fwyd cyfeillgar i bryfed peillio, bu gwirfoddolwyr yn plannu blodau gwyllt brodorol a phlanhigion sy’n blodeuo mewn coetir ar y ddau safle. I gyrraedd yr ail nod, darparu lleoedd i bryfed peillio fyw, adeiladwyd gwesty chwilod a phlannu gwrychoedd brodorol yn y Ganolfan Ymwelwyr. Mae’r cychod gwenyn presennol yn dal i ffynnu ac mae’r ddol blodau gwyllt yn denu gwenyn gwyllt sy’n chwilio am fwyd yn y Parc Gwledig. Mae’r Parc Cenedlaethol eisoes wedi ymrwymo i ofynion y trydydd nod, dim plaladdwyr na chwynladdwyr, yn y ddau leoliad. I gyrraedd y pedwerydd nod,  y nod olaf, roedd yn rhaid cynnwys cymunedau a hysbysu pobl pam fod pryfed peillio’n cael eu helpu trwy osod arwyddion ar y safle. Bydd yr Awdurdod hefyd yn cysylltu â 5,000 o ddysgwyr ifanc sy’n mynychu’r Ganolfan Ymwelwyr a Pharc Gwledig pob blwyddyn trwy’u Rhaglen Addysg, i ddysgu sut i fod yn Wenyn Gyfeillgar a pham fod hynny’n cyfrif.

Meddai Mr James Marsden, Aelod Hyrwyddwr Tirwedd a Bioamrywiaeth yr Awdurdod, “Mae ennill Statws Gwenyn Gyfeillgar mewn dau o’n safleoedd ymwelwyr gorau yn gam arall i helpu i Adfer Natur ar draws y Parc Cenedlaethol, fel rhan o raglen weithredu gyfun, ehangach. Mae pryfed peillio, gan gynnwys gwenyn, gwenyn meirch, pili pala a gwyfod, yn rhan hanfodol o’n hamgylchedd naturiol ac rydym wedi ymrwymo i weithredu i atal ac i adfer eu dirywiad.”

Ychwanegodd Wayne Lewis, Rheolwr Masnachol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, “Byddwn yn dal i weithredu ar bob un o’r pedair thema Gwenyn Gyfeillgar yn y ddau leoliad ac rydyn ni’n bwriadu eu datblygu ymhellach yn y dyfodol. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y newidiadau rydym wedi’u gwneud i ddod yn Wenyn Gyfeillgar o fudd i’r pryfed peillio ac i lesiant yr ymwelwyr â Chanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol a Pharc Gwledig Craig-y-nos.”

DIWEDD