Casgliad o ffotograffau Camau Bychan yn rhodd i Tŷ Illtyd

I nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, cafodd casgliad o ffotograffau, wedi’u tynnu gan y rhai oedd yn cymryd rhan yn Camau Bychan, ei gyflwyno i Tŷ Illtyd yn Aberhonddu i’w harddangos ar waliau’r Ganolfan Iechyd Meddwl. Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog drefnodd gyflwyno’r ffotograffau mewn fframiau, gan gadw pellter cymdeithasol, ddoe, dydd Iau 13 Mai, gyda rhai o aelodau Camau Bychan yn bresennol.

Prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru yw Camau Bychan ar gyfer y rhai sy’n cael eu cyfeirio gan y Gwasanaeth Iechyd Meddwl ac sy’n cael ei arwain gan staff tîm Cymunedau’r Parc Cenedlaethol.  Cafodd y rhai oedd yn bresennol eu gwahodd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o deithiau cerdded a gweithgareddau i gysylltu â natur yn y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys gweithdai ffotograffiaeth.  Daeth y Prosiect i ben fis Medi 2020 ond, oherwydd y pandemig, gohiriwyd cyflwyno’r ffotograffau gyda Tŷ Illtyd tan yr wythnos hon.  
Mae detholiad o ffotograffau Camau Bychan yn cael eu dangos hefyd yn ffenestri Oriel Found a Visit Brecon yng nghanol tref Aberhonddu.

Meddai Stephanie Evans, Cyfarwyddwr Pontio Awdurdod y Parc Cenedlaethol:  Thema Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni yw natur, gan bwysleisio pwysigrwdd mynd i’r awyr iach i’n hiechyd meddwl a’n llesiant. Fel Parc Cenedlaethol, mae ein mannau awyr agored yma er budd pawb ac rydyn ni’n annog hynny’n frwd drwy broseictau cymunedol megis Camau Bychan. Rwy’n falch fod y casgliad hwn o ffotograffau a dynnwyd gan rai oedd yn cymryd rhan yn Prosiect yn cael eu dangos erbyn hyn i’r gymuned ac rwy’n gobeithio y bydd hynny’n ysbrydoli pobl i gysylltu gyda natur”.

Ac ychwanegodd Kirsty Davidson o Tŷ Illtyd, “Mae’r buddion o archwilio’r Parc Cenedlaethol a dysgu sgiliau creadigol a rhai gwledig trwy Camau Bychan wedi bod yn gyfle ffantastig i bawb oedd yn cymryd rhan. Rydyn ni’n ddiolchgar i’r Awdurdod am ein cefnogi ac yn edrych ymlaen at weithio gyda’n gilydd eto yn y dyfodol.”

Cynhaliodd seicolegwyr o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ymchwil meintiol ac ansoddol trwy’r Prosiect Camau Bychan a chanfod fod mynd allan yn yr awyr agored yn y Parc Cenedlaethol yn cael effaith arwyddocaol ar iselder a gorbryder, yn gwella llesiant yn gyffredinol ac yn arwain at lai o ddefnydd o wasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd, y trydydd sector a’r gwasanaethau brys

DIWEDD