Arian yn hwb i Adfer Natur ym Mannau Brycheiniog

Daeth hwb i fioamrywiaeth ar draws Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, diolch i arian gan Lywodraeth Cymru.  Gwariwyd cyfanswm o £70,000 o Gronfa Grantiau Cyfalaf Lleoedd Lleol ar gyfer Natur 2020/21, sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ar un ar ddeg o brosiectau tŵf amgylcheddol ar draws y Parc.  Mae’r prosiectau wedi hybu a gwella llawer ar fannau gwyrdd y Parc Cenedlaethol, er budd natur a’i adferiad.   

Gan ddefnyddio elfen ‘Troi’r Ystâd Gyhoeddus yn Wyrdd’ o’r arian, bu staff y Parc Cenedlaethol yn gweithio ar safleoedd yn cynnwys Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol i ledu gwrychoedd a phlannu blodau cynhenid, cyfeillgar i beillwyr. Cafodd gwrychoedd eu gwella ym Mharc Gwledig Craig-y-nos hefyd, a phlannwyd 9,500 o blygiau planhigion lleol mewn ardaloedd o goetir.  A hefyd, gyda’r arian, gosodwyd byrddau cerdded newydd er mwyn gallu cyrraedd a mwynhau’r ardal o dir gwlyb ger y llyn pellaf.

Prynwyd cyfanswm o 102 o flychau ystlumod ac adar a’u rhannu i safleoedd yn cynnwys Caban Sgowtiaid y Gelli Gandryll a choetir Castell Carreg Cennen, a fydd yn fannau diogel i fywyd gwyllt i fagu eu cywion bob blwyddyn.  Drwy ddefnyddio’r arian i brynu cynaeafwr hadau ac ôl-gerbyd, gellir casglu hadau o dir sydd piau’r awdurdod a’u hau mewn mannau eraill yn y Parc.  Cafodd Timau’r Wardeiniaid a’r Gwirfoddolwyr helmedau newydd i redeg peiriannau’n ddiogel a hefyd ddau beiriant torri llystyfiant y gellir eu hail wefru.  Mae’r rhain yn ysgafnach na pheiriannau torri llystyfiant cyffredin ac yn gam pwysig arall at gael yr Awdurdod yn garbon niwtral.  Roedd yr arian hefyd yn cefnogi dau brosiect yn y gymuned, dôl blodau gwyllt yn Cwmbeth Close, Crughywel a phlannu mathau lleol o goed ffrwythau ar hyd hen reilffordd Gofilon.

 Rheoli clymchwyn Siapan ar Afon Wysg

Rheoli clymchwyn Siapan ar Afon Wysg

Hefyd, gydag arian o faes Tŵf Amgylcheddol, roedd Partneriaid Natur Lleol Bannau Brycheiniog yn gallu canolbwyntio ar brosiectau mwy ar ddau safle gwahanol o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Tîm Planhigion Ymwthiol Anfrodorol y Parc Cenedlaethol oedd y goruchwylio rheoli Clymchwyn Siapan ar Afon Wysg a llwyddwyd i gael caniatâd pob un o’r 25 o dirfeddianwyr i fynd ar eu tir.   Yng Ngwarchodfa Natur Pwll y Wrach, ger Talgarth, roedd y gwaith yn canolbwyntio ar wella, gwaredu neu wneud yn ddiogel coed onnen wedi’u heintio gan glefyd gwywo. Prynwyd hefyd offer monitro ystlumod, y cyfan yn cael ei oruchwylio gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, sy’n rheoli’r safle.

Meddai Mr James Marsden, Hyrwyddwr Tirwedd a Bioamrywiaeth yr Awdurdod: “Yma, ym Mannau Brycheiniog, rydyn ni’n talu sylw i hyn drwy weithredu’r Cynllun Gweithredu Adfer Natur a gafodd ei lansio fis Gorffennaf 2019 i arwain gwaith ein Partneriaeth Natur Leol ac adfer amgylchedd naturiol y Parc.  Fel y dangosodd yr un ar ddeg o brosiectau natur, wrth i sefydliadau partner, cymunedau a thirfeddianwyr gydweithio, gallwn lwyddo i gael mwy o’r Parc Cenedlaethol yn gyfoethog o natur, er budd pawb.”

Ychwanegodd Chris Lazo, Rheolwr Partneriaethau Natur Lleol Cymru, “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi gallu ariannu’r amrywiaeth eang o brosiectau gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog trwy’r Gronfa Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur.  Cynllun grantiau cyfalaf yw’r Gronfa sy’n galluogi cymunedau i wrthdroi dirywiad amgylcheddol drwy wella’r byd natur sydd ar gael ar eu stepen ddrws.  Mae Partneriaethau Natur Lleol ledled Cymru wedi defnyddio’r arian yn arloesol ac yn effeithlon – ac mae’n wych gweld Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn defnyddio’r arian cystal ar gyfer cymaint o wahanol fentrau.”

DIWEDD