Cyhoeddi enillwyr Cystadleuaeth Ysgrifennu Cymraeg Bannau Brycheiniog

Mae pump o bobl ifanc o Fannau Brycheiniog wedi ennill gwobr yng Nghystadleuaeth ysgrifennu Cymraeg Bannau Brycheiniog. 

Rhoddodd y Parc Cenedlaethol her i blant ysgol ysgrifennu ynghylch y trysorau cenedlaethol y maen nhw wedi’u darganfod yn eu cornel nhw o’r Parc yn ystod y cyfnod clo.

Lansiwyd y gystadleuaeth i nodi Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru (19 – 25 Ebrill),  sy’n cael ei chydlynu gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored.  Nod Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored yw annog ac ysbrydoli athrawon, grwpiau dysgu a theuluoedd ar draws Cymru i gysylltu gyda natur a’r byd naturiol trwy fywyd yr ysgol a’r teulu. Y llynedd, bu plant ar draws y Parc yn treulio mwy o amser yn cysylltu gydag amgylchedd naturiol eu hardal gan ddarganfod beth sy’n gwneud y Parc Cenedlaethol yn lle mor arbennig i fyw ynddo.  Roedd y gystadleuaeth yn gyfle i ysgrifenwyr ifanc hogi’u sgiliau a chofnodi’r anturiaethau yn yr awyr agored a’r cysylltiadau â natur y llynedd yn y Gymraeg.

Ymgeisiodd 24.  Mae’r pum enillydd, sy’n cael eu rhestru isod, wedi cael anrheg o becyn cefn Columbia a thaleb i’w gwario yng nghanolfan ymwelwyr y Parc Cenedlaethol.

Erin-Lois Coyle – Ysgol Calon Cymru
Eleri Price – Ysgol Calon Cymru
Brynach Skinner – Ysgol Calon Cymru
Rosie Evans – Ysgol Gwernyfed
Poppy Evans-Knight – cystadlu’n annibynnol

Cliciwch yma i ddarllen yr ysgrifau buddugol.

Ysgrifennodd Poppy Evans, sydd i’w gweld yn y llun gyda’i gwobr, ddarn byr ynghylch Mynydd Pen-y-fâl.  “Mynydd Pen-y-fâl yw fy hoff fynydd” meddai.  Mae’r gystadleuaeth wedi ysbrydoli Poppy i ddysgu mwy am yr hanesion sydd wedi tyfu o dirwedd y Bannau.  Mae wedi gwirioni ar chwedl Llyn y Fan Fach.  “Fy antur nesaf fydd gweld “Morwyn y Llyn”, meddai.

Ac meddai Jon Gruffydd, Swyddog Addysg y Parc Cenedlaethol, “Roedd darllen gwaith y plant yn y gystadleuaeth yn bleser pur ac fe hoffen ni ddiolch i bob plentyn a gymerodd ran.  Mae ysgrifennu ynghylch natur yn ffordd wych o sefydlu cysylltiad gyda’r tirwedd.  Y Gymraeg yw ein gorffennol, ein presennol a’n dyfodol.  Roedden ni wrth ein bodd fod cymaint o blant wedi cystadlu gyda’r fath frwdfrydedd.”

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg ar draws y parc.  Mae’r gystadleuaeth hon yn rhan o’i hymdrechion ehangach i helpu’r iaith i ffynnu.