Cystadleuaeth Ysgrifennu’r Bannau Brycheiniog yn y Gymraeg

Cystadleuaeth Ysgrifennu’r Bannau Brycheiniog yn y Gymraeg – cyfle i ennill gwobr trwy ddisgrifio’ch bro yn y Gymraeg.

Fel rhan o Wythnos Dysgu Awyr Agored Cymru eleni mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn lansio Cystadleuaeth Ysgrifennu yn y Gymraeg sydd yn agored i bobl ifanc yr ardal. Mae’r Awdurdod yn awyddus i glywed am y trysorau cudd mae plant ysgol wedi darganfod ym myd natur eu milltir sgwâr yn ystod y cyfnod clo, trwy ddarnau maen nhw wedi’u hysgrifennu yn y Gymraeg.

Pwrpas Wythnos Dysgu Awyr Agored, 19 – 25 Ebrill 2021 yw annog ac ysbrydoli athrawon, grwpiau dysgu a theuluoedd ar draws Cymru i gysylltu gyda natur a’r amgylchedd trwy’r ysgol neu gyda’r teulu. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae pobl a phlant ar draws y Parc wedi bos yn cysylltu gyda’u hamgylchedd naturiol ac yn darganfod yr hyn sy’n gwneud y Parc Cenedlaethol yn le arbennig i fyw. Bydd y gystadleuaeth yn rhoi cyfle i ysgrifenwyr ifanc oed 11 – 16 y cyfle i roi pen ar bapur i gyfleu eu hanturiaethau lleol a’u darganfyddiadau drwy gerdd, limrig, blog, erthygl, ysgrif, cerdyn post neu bwt ar gweplyfr.

Meddai Stephanie Evans, Cyfarwyddwr Trawsnewid Awdurdod y Parc “Mae gymaint o ansoddeiriau hyfryd gellid eu defnyddio i ddisgrifio gwahanol ardaloedd o Barc y Bannau. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i ddarllen darnau disgrifiadol yn y Gymraeg hyd at 300 gair o hyd gan blant o’r hyn maen nhw wedi bod yn gwneud ac yn darganfod yn ystod y cyfnod clo. Wedi’r cyfan, mae’r Gymraeg yn rhan annatod o dirwedd y Parc a pha well ffordd o’i ddathlu na darllen disgrifiadau bywiog ohono gan blant Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog”

Categorïau Cystadleuaeth Ysgrifennu’r Bannau Brycheiniog yn y Gymraeg yw: o dan 11 dysgwr; o dan 11 iaith gyntaf; 11 – 16 dysgwr; 11 -16 iaith gyntaf. Croeso i blant ysgrifennu cerdd, limrig, blog, ysgrif, erthygl, cerdyn post neu bwt ar gyfer gweplyfr. Dyddiad cau ar gyfer darnau cais yw 9 Mehefin a’r cyfeiriad yw: cystadleuaeth@beacons-npa.gov.uk neu Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Plan y Ffynnon, Ffordd Cambria, Aberhonddu Powys LD3 7HP.

Bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr yr un – dilledyn neu offer addas ar gyfer anturiaethau yn yr awyr agored. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi erbyn diwedd tymor yr haf: 16 Gorffennaf 2021.