Wardeiniaid Coed Bannau Brycheiniog yn derbyn Llwyfen Goffa gan y Cyngor Coed

I ddathlu 30 mlynedd o wardeinio coed, mae’r Cyngor Coed wedi cyflwyno 30 o goed Llwyfen sydd  ag ymwrthedd i haint, i’w plannu gan wardeiniaid coed gwirfoddol.

Cafodd Wardeiniaid Coed Gwirfoddol Bannau Brycheiniog, sydd newydd ei ffurfio, eu dewis i dderbyn un o’r coed ac maen nhw’n edrych ymlaen at ei phlannu’n yn fuan.   Y goeden yw Llwyfen Ulmus ‘New Horizon’ sydd ag ymwrthedd llwyr i Glefyd Llwyfen yr Iseldiroedd, sy’n addas ar gyfer pob math o bridd, ag ymwrthedd i amodau trefol a gwledig, i amodau oer, poeth a gwyntog iawn  ac sydd, felly, yn berffaith ar gyfer Bannau Brycheiniog.

Meddai Sam Harpur, Warden Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chydlynydd Wardeiniaid Coed Bannau Brycheiniog, “Roedd coed llwyfen yn nodwedd amlwg o Fannau Brycheiniog ar un adeg ac mae colli cymaint i Glefyd Llwyfen yr Iseldiroedd wedi effeithio cryn dipyn ar y tirwedd. Bydd y nod o blannu rhywogaethau o Lwyfen ag ymwrthedd nid yn unig yn helpu i amlygu plannu coed yn y Parc Cenedlaethol ond hefyd, gobeithio, yn ysbrydoli plannu mwy o goed Llwyfen yn y dyfodol a ddaw yn nodwedd gyffredin unwaith eto o’r tirwedd.  Bydd plannu’r goeden Llwyfen hon hefyd yn dathlu cychwyn perthynas rhwng y Cyngor Coed ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.”

Mae Parc Cenedlaethol Bannau  Brycheiniog yn edrych ymlaen at lansio’r Wardeiniaid Coed Gwirfoddol newydd yn swyddogol ac at groesawu gwirfoddolwyr newydd i ymuno â ni’n fuan.

Byddwn yn recriwtio deg o Wardeiniaid Coed Gwirfoddol yn ddiweddarach eleni.  Bydd y broses yn cael ei chyhoeddi ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol ar y pryd.