Bannau Brycheiniog yn Lansio Gŵyl Awyr Dywyll

Mae’r ŵyl gyntaf yn lansio ar lein y mis Medi hwn

Mae Gwarchodfa Awyr Dywyll Bannau Brycheiniog yn lansio ei gŵyl gyntaf erioed o 24 – 26 Medi.

Rhithiol yn bennaf fydd yr Ŵyl Awyr Dywyll gyda digwyddiadau ysbrydoledig ar lein yn cynnwys pynciau’n amrywio o ystlumod i gosmoleg i fythau a chwedlau awyr y nos. Yr Arglwydd Martin Rees, y Seryddwr Brenhinol a chyd-gadeirydd y grŵp Seneddol Aml Bleidiol ar Awyr Dywyll fydd yn lansio’r ŵyl, gyda chroeso cynnes oddi wrth Brif Weithredwr newydd y Parc Cenedlaethol, Catherine Mealing-Jones.

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw un o ddim ond 18 o fannau yn y byd gyda statws gwarchodfa awyr dywyll. Does dim llygredd goleuni yn yr ardal sy’n golygu y gallwn fwynhau awyr dywyll a gweld y llwybr llaethog ar nosweithiau clir yn ogystal â llawer iawn o ryfeddodau eraill yr awyr.

Meddai Carol Williams, trefnydd yr ŵyl, ‘Rydym wrth ein bodd yn gwahodd y cyhoedd i’r digwyddiadau hyn. Bydd yn wledd go iawn i’r meddwl ond yn ddigon hawdd i’r teulu cyfan ei ddilyn a’i fwynhau. Byddwn yn trafod pynciau megis, pam ein bod wedi’n gwneud o lwch y sêr, sut mae planed yn edrych o galaeth sy’n bell i ffwrdd a sut y gallwch ganfod a gwylio’r planedau.

‘Rydym yn gobeithio y byddwch yn ymuno â ni ac yn darganfod harddwch ein hawyr y nos o gysur eich cartref gyda’ch teulu a’ch ffrindiau.’

Mae’r ŵyl yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb yn awyr y nos. Mae’n addas iawn i gynulleidfaoedd ieuengach dros 10 oed.

Ewch at breconbeacons.org/stargazing i gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle.   Y pris yw £2 y cartref am bob  digwyddiad.

DIWEDD