Mae Prif Weithredwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn camu i lawr

Mae 2020 wedi dangos pa mor bwysig yw ein tirweddau gwarchodedig, gan gynnwys ein Parciau Cenedlaethol, i bobl yng Nghymru. Drwy gydol y pandemig, mae staff Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi dangos eu bod yn wydn, yn hyblyg ac yn teimlo’n angerddol am yr hyn maen nhw’n ei wneud. Mae Julian Atkins, y Prif Weithredwr, wedi arwain y Parc drwy hyn ac mae bellach wedi penderfynu chwilio am heriau a chyfleoedd newydd.

Dywedodd Gareth Ratcliffe, Cadeirydd y Parc Cenedlaethol:
“Gyda thristwch y gwelwn Julian yn gadael yr Awdurdod. Hoffwn ddiolch yn gyhoeddus i Julian am ei holl waith caled dros y blynyddoedd a dymuno’r gorau iddo ym mhennod nesaf ei fywyd. Mae Julian wedi goruchwylio gwaith anhygoel ac wedi hau hadau er mwyn sicrhau dyfodol disglair i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ei staff, ei gymunedau, ei bartneriaid a’r cyhoedd.”

Yn ystod cyfnod Julian fel Prif Swyddog Gweithredol, mae wedi arwain Rhaglen Newid uchelgeisiol yr Awdurdod ac mae hefyd wedi arwain y gwaith o gyflawni amrywiaeth o fentrau, yn enwedig wrth weithredu amrywiaeth o brosiectau ynni adnewyddadwy ac ehangu fflyd cerbydau trydan yr Awdurdod. O dan arweiniad Julian, mae’r Awdurdod wedi gosod sylfeini er mwyn symud ymlaen yn gadarnhaol wrth gyflawni camau gweithredu’n ymwneud â newid hinsawdd ac adfer natur gyda mwy o effaith.

Bydd y broses o recriwtio Prif Weithredwr newydd yn dechrau yn gynnar yn 2021.