Cynnydd mewn gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn y cyfnod clo

Yn ystod y cyfnod clo hwn, rydym ni wedi gweld cynnydd mewn gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd ym mhob rhan o’r Parc Cenedlaethol,  Mae Wardeiniaid yn dal i weithio gyda’r Heddlu i ymateb i weithgareddau anghymdeithasol, gan gynnwys gyrru oddi ar y ffordd, yn y Parc Cenedlaethol.  Rydym yn gweithredu.   Gellir stopio cerbydau a’u meddiannau a chyflwyno dirywon.

 Meddai llefarydd ar ran yr Heddlu “mae Uned Plismona Ffyrdd Aberhonddu ac aelodau o’r Tîm Plismona Cymdogaeth yn gweithio’n agos gyda y Wardeiniaid Parc Cenedlaethol yn dilyn cynnydd mewn adroddiadau fod beiciau modur oddi ar y ffordd yn cael eu gyrru’n anghyfreithlon ledled y Parc Cenedlaethol.   Nid yn unig mae hyn yn amlwg yn torri cyfyngiadau COVID-19 Llywodraeth Cymru ond mae hefyd yn drosedd o dan y Ddeddf Traffig Ffordd megis gyrru heb yswiriant a reidio / gyrru cerbyd peiriant ar Dir Comin heb awdurdod cyfreithlon.   Os cewch eich dal yn gyrru beic / cwad oddi ar y ffordd gallech wynebu cael eich cerbyd wedi’i feddiannu a dirwy neu ŵys i lys barn.   Gallech hefyd gael Rhybudd Adran 59.   

Meddai Sam Ridge, Warden Ardal Cynorthwyol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’r Heddlu’n benderfynol o atal gyrwyr rhag gyrru’n anghyfreithlon oddi ar y ffordd.   Rydyn ni eisiau i yrwyr beiciau modur a 4×4 sylweddoli nad y Parc Cenedlaethol yw’r lle i ddod â’u cerbydau.   Mae yna ddigon o leoedd i wneud hynny’n gyfreithlon, ond nid y Parc yw un o’r mannau hynny.”  

Mae’r problemau sy’n codi o yrru oddi ar y ffordd yn cynnwys difrod amgylcheddol, amharu ar fywyd gwyllt, peryglu ac amharu ar ddefnyddwyr eraill y Parc a niweidio’r economi wledig.

 Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn croesawu unrhyw wybodaeth ynghylch gyrru’n anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn y Parc a gallwch lenwi ffurflen ar wefan yr Awdurdod ynghylch digwyddiadau penodol https://www.bannaubrycheiniog.org/yr-awdurdod/adrodd-problemau/rhoi-gwybod-inni-am-yrru-oddi-ar-y-ffordd-yn-anghyfreithlon.

Mae’r wybodaeth y byddwch yn ei gyflwyno’n bwysig, bydd yn ein galluogi ni i ffurfio darlun a chanolbwyntio ein hadnoddau ar ardaloedd lle mae trafferthion.  Bydd yr wybodaeth hefyd yn cael ei rannu gyda’r heddlu. a fydd yn gallu ymateb.