Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi neges glir i barchu Canllawiau Llywodraeth Cymru

Mae tri Awdurdod Parc Cenedlaethol Cymru wedi croesawu canllawiau newydd Llywodraeth Cymru sy’n atgyfnerthu’r angen i bobl Cymru aros adref, aros yn ddiogel a gwarchod y GIG.

Mae Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol hefyd yn galw ar holl drigolion y DU i barchu’r rheolau a’r mesurau sy’n bodoli yng Nghymru er mwyn gwarchod pawb, ac yr wythnos hon byddant yn ymdrechu’n galed gyda’u partneriaid i sicrhau bod pobl yn derbyn yr wybodaeth gywir.

Wrth gyfeirio at y canllawiau diwygiedig, meddai Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:

 “Mae’r mesurau clir a gyhoeddwyd gan Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford ddydd Gwener yn berthnasol i’r rhai hynny sy’n byw yng Nghymru yn ogystal â’r rhai hynny sy’n bwriadu teithio dros y ffin i Gymru.”

“Mae Cymru yn parhau i fod wedi llwyrgloi, ac fe ddylech aros adref oni bai eich bod yn ymgymryd â gweithgareddau hanfodol. Golyga hyn hefyd na ddylech yrru i fynd allan i ymarfer corff, ac mai dim ond yn uniongyrchol o’ch cartref y dylech chi fynd allan i ymarfer, tra hefyd yn cadw at y Côd Cefn Gwlad.”

“I’r rhai hynny nad ydynt yn byw o fewn pellter cerdded mae’r neges gennym ni yn glir – peidiwch ag ymweld â Pharciau Cenedlaethol Cymru nes bydd canllawiau Llywodraeth Cymru i osgoi teithio diangen yng Nghymru wedi ei godi.”

“Rydym yn deall bod y cyfyngiadau hyn yn anodd i bobl, ond y brif flaenoriaeth yw cadw ein trigolion, ymwelwyr a staff yn ddiogel. Edrychwn ymlaen at yr amser y cawn eich croesawu’n ôl i Barciau Cenedlaethol Cymru, ac yn bwysicaf oll, ein bod yn gwneud hynny pan allwn gadw pawb yn ddiogel.”

Bydd lleoliadau gwledig mwyaf poblogaidd Cymru, yn cynnwys Yr Wyddfa, Pen y Fan a Llwybr Arfordir Penfro, yn parhau i fod ar gau trwy ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru hyd nes yr ystyrir ei bod yn ddiogel i’w hail-agor.

Meddai Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

 “Golyga’r mesurau hyn yng Nghymru na gaiff pobl yrru i ymarfer corff yng Nghymru – waeth lle maent yn byw – a bydd meysydd parcio a mynediad i’r safleoedd mwyaf poblogaidd ym Mharciau Cenedlaethol Cymru yn parhau i fod ar gau.

“Rydym yn annog ymwelwyr sy’n bwriadu dod i ddringo’r Wyddfa neu unrhyw gopaon a safleoedd poblogaidd eraill i ddilyn canllawiau’r llywodraeth, i aros adref ac i ymarfer corff yn eu hardal leol – peidiwch â gwneud siwrnai ddiangen. Byddwn yn parhau i adolygu’r safleoedd caeedig yn wythnosol a dim ond yn agor safleoedd pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.”

Meddai Julian Atkins, Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Mae ymarfer yn yr awyr agored yn hynod fuddiol i lesiant corfforol a meddyliol ac mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod hynny yn eu mân ddiwygiadau i’r ddeddfwriaeth ddydd Gwener sydd bellach yn caniatáu pobl i ymarfer corff o’u stepen drws mwy nag unwaith y dydd.

“Gobeithiwn ein bod wedi egluro’r gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr ac fe hoffem ddiolch i chi am aros adref, aros yn ddiogel a gwarchod y GIG.”

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch y safleoedd sydd wedi cau yn ogystal â newidiadau i wasanaethau’r Parciau Cenedlaethol yma:

Eryri: www.eryri.llyw.cymru/coronavirus

Bannau Brycheiniog:  https://www.beacons-npa.gov.uk/

Arfordir Penfro: www.pembrokeshirecoast.wales

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Gall y cyhoedd adrodd ynghylch unrhyw faterion trwy gysylltu ag:
  2. Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: enquiries@beacons-npa.gov.uk
  3. Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro info@pembrokeshirecoast.org.uk
  4. Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: parc@eryri.llyw.cymru