Diweddariad Gwasanaethau’r Rhyngrwyd

Yn dilyn yr ymosodiad seibr a ddioddefodd yr Awdurdod yn ystod 12/13 Medi 2020, fe hoffen ni gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynghylch ein gwasanaethau cynllunio.  

Er ei bod yn bosibl mynd ar wefan yr Awdurdod erbyn hyn, nid yw’n bosibl i’r cyhoedd gyrraedd yr hen geisiadau cynllunio na’r rhai sy’n cael eu prosesu gan yr Awdurdod ar hyn o bryd.   Mae hynny’n golygu na allwn ni symud ymlaen gyda’r ceisiadau cynllunio presennol na chofrestru ceisiadau newydd.  Rydyn ni’n gweithio’n galed i gael trefn ar y sefyllfa ond, yn y cyfamser, allwn ni ddim penderfynu ar geisiadau presennol.  

 Os ydych chi wedi cyflwyno cais cynllunio’n ddiweddar, neu os ydyn ni eisoes yn prosesu un, byddwn yn dal i’w brosesu orau gallwn ni.  Cofiwch fod y Porth Cynllunio’n dal i weithio. rydyn ni’n cadw’r ceisiadau sydd wedi’u derbyn i’w huwchlwytho arno pan fydd y system ar gael.  Hefyd, os ydych chi cymryd rhan yn y broses gynllunio fel trydydd parti, neu fel ymgynghorai, gallwch ddal i wneud hynny a byddwn yn cadw eich sylwadau ar ffeil.  

Rydyn ni’n dilyn ein cynlluniau parhad busnes ac mae ein timau cyfrifiadurol yn gweithio’n galed i ddatrys y broblem hon gynted â bo modd.  Byddwn yn cyflwyno diweddariadau pellach pan allwn ni. 

 Rydyn ni’n ymddiheuro am unrhyw anhwylustod; os hoffech chi gysylltu â ni, e-bostiwch ni ar: planning.enquiries@beacons-npa.gov.uk – byddwn yn ateb ebyst gynted ag y gallwn ni. Neu, os hoffech chi siarad â ni, ffoniwch ein staff derbynfa yn y lle cyntaf ar un ai 07973 781479 neu 07973 781510.