Hen Glwb Ceidwadol yng Nghrucywel.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn derbyn llawer o ohebiaeth mewn perthynas ag ailddatblygu hen Glwb Ceidwadol yng Nghrucywel. Rydym yn cydnabod y pryderon ac yn croesawu gohebiaeth. Hoffem hefyd atgoffa pawb bod barn o’r fath yn cael ei mynegi’n fwyaf effeithiol pan fyddant yn ymwneud â chais cynllunio byw dilys.
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda’r tirfeddianwyr a’r asiantau er mwyn sicrhau bod yr holl ganiatâd angenrheidiol ar waith ar gyfer unrhyw newidiadau i’r cynllun a ganiateir, er nad oes cais cynllunio ffurfiol wedi’i gyflwyno i’r Awdurdod ar hyn o bryd.

Gallwch gofrestru eich diddordeb yn y safle ar ein gwefan yn: – https://planningonline.beacons-npa.gov.uk/online-applicatio…

Ar ôl i chi gofrestru’ch buddiant fe’ch hysbysir os cyflwynir cais cynllunio newydd yn ymwneud â’r hen Glwb Ceidwadol, a sut y gallwch wneud sylwadau.