Milltiroedd heb Gamfeydd– Gweithio’n llwyddiannus mewn partneriaeth!

Mae prosiect Milltiroedd heb Gamfeydd yn rhan o’r Prosiect Iach, Actif ac yn yr Awyr Agored yn bartneriaeth rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyngor Sir Powys a Chyfoeth Naturiol Cymru. Crëwyd Milltiroedd heb Gamfeydd yn wreiddiol fel brand gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd ac ers hynny mae’r syniad wedi cael ei efelychu ar hyd a lled Parciau Cenedlaethol y DU a thu hwnt.

Bwriad prosiect Milltiroedd heb Gamfeydd, Prosiect Iach, Actif ac yn yr Awyr Agored oedd dileu camfeydd ar gyfer pobl sy’n cael trafferth cael mynediad at gefn gwlad o ganlyniad i’r camfeydd. Prif nod y prosiect oedd cael gwared â’r camfeydd a grëwyd gan bobl a darparu llwybrau oedd yn rhydd o gamfeydd er mwyn hybu mynediad i bawb i gefn gwlad. Mae’r gwaith hwn yn gwireddu bwriadau’r Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i ddarparu cyfle i bawb i ddeall a mwynhau’r Parc Cenedlaethol yn ogystal â chyfrannu at wireddu amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae prosiect Milltiroedd heb Gamfeydd yn canolbwyntio ar yr ardaloedd poblog y tu mewn a thu allan i ffiniau’r Parc Cenedlaethol. Mae Aberhonddu, Crughywel a Thalgarth o fewn ffiniau’r Parc tra bod Llanfair-ym-Muallt, Llandrindod, Y Drenewydd a’r Trallwng y tu allan i ffiniau’r Parc.

Yn ôl Gareth Ratcliffe sef Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chynghorydd Ward y Gelli Gandryll, “Bydd y prosiect hwn oedd yn gweithredu ar y cyd rhwng yr Awdurdod, Cyngor Tref y Gelli Gandryll, Cyngor Sir Powys a Chyfoeth Naturiol Cymru yn arwain at well mynediad i bobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn yn ogystal â rhieni ifanc sydd â phlant a phobl sy’n cael trafferth dringo dros gamfa.

Hyd yn hyn, mae Wardeiniaid Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi newid 52 camfa am gatiau. Mae pont sy’n 12m o hyd wedi’i gosod yn Nolydd Bullpit Crughywel yn lle pont gul oedd yn anodd i bobl mewn cadeiriau olwyn ei chroesi.

Drwy weithio mewn partneriaeth â chymunedau, y bwriad ydy targedu’r llwybrau hynny sy’n gallu darparu rhwydwaith o lwybrau a fydd yn agored i lawer iawn  mwy o bobl. Mae hyn yn cynnwys pobl ag anableddau, anawsterau symud, pobl â theuluoedd ifanc a phobl sy’n mynd a’u cŵn am dro.

Mae Josie Pearson, sydd wedi ennill medal aur Baralympaidd, wedi bod yn rhan o’r pwyllgor llywio ac mae hi’n awyddus i longyfarch y wardeiniaid am y gwaith y maen nhw wedi ei wneud. “Rydw i mor ddiolchgar i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, eu gwirfoddolwyr, Cyngor Tref y Gelli Gandryll a phawb arall sydd wedi helpu i wneud cefn gwlad yn fwy hygyrch i bawb. Mae gallu cael mynediad i gefn gwlad yn hawl i bawb ar gyfer eu lles corfforol a’u lles meddyliol”.