Gormod o ymwelwyr yn tyrru i leoliad prydferth ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae ardal boblogaidd Gwlad y Rhaeadrau ym Mharc Bannau Brycheiniog  yn ei chael hi’n anodd ymdopi â’r niferoedd uchel o ymwelwyr sy’n dychwelyd wedi’r cyfnod clo ac sy’n achosi i feysydd parcio a llwybrau fethu â dygymod â’r niferoedd uchel o gerbydau a phobl. 

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynghori ymwelwyr i gynllunio o flaen llaw ac yn rhybuddio fod meysydd parcio’n llenwi’n gyflym pob dydd. Mae’n hollbwysig fod ymwelwyr yn parcio yn y meysydd parcio dynodedig ac unrhyw gaeau parcio ychwanegol sydd ar gael. Mae ceir sydd yn cael eu parcio ar ochrau’r ffyrdd ac ar balmentydd yn creu rhwystrau ar gyfer cerbydau brys a cherbydau amaethyddol sydd am ddefnyddio’r ffyrdd a’r lonydd cul. Mae’r Awdurdod yn cynghori fod pobl yn gwirio’n app parcio cyn iddynt ymweld ac yn atgoffa ymwelwyr fod meysydd parcio’n aml yn mynd o fod a chanddynt le i fod yn llawn mewn awr.  <https://carpark.beacons-npa.gov.uk/>

Roedd meysydd parcio poblogaidd fel Cwm Porth yn llawn erbyn 09.50am ddydd Sul diwethaf, sy’n record yn ôl pob sôn. Mae’r Heddlu ac Awdurdodau Lleol y Priffyrdd ar waith yn yr ardal a chyflwynwyd dros 30 o docynnau parcio Ddydd Sul i geir a oedd wedi parcio’n anghyfreithlon. Gall ceir sydd yn achosi rhwystrau gael eu symud oddi yno. 

Dywedodd preswylydd lleol, “Mae fel gŵyl y banc yma bob dydd ac mae’r traffig yn ofnadwy. Mae pobl yn parcio ymhobman, ar balmentydd ac o flaen mynedfeydd i gartrefi. Ni all hyn fod yn brofiad pleserus i ymwelwyr.”

Mae gan Wlad y Rhaeadrau lwybrau cerdded cul a pan fyddant yn brysur mae cadw pellter cymdeithasol yn amhosib – rydym mewn pandemig byd-eang o hyd ac yng Nghymru mae canllawiau ymbellhau cymdeithasol yn 2 fedr o hyd. 

Dywedodd Julian Atkins, Prif Weithredwr y Parc Cenedlaethol: “Rydym am i ymwelwyr gael atgofion da o’u hymweliad â Gwlad y Rhaeadrau. Nid ydym am iddynt gofio am broblemau parcio nac am y ffaith fod y llwybrau’n llawn. Mae’n anodd cadw pellter cymdeithasol pan fydd cymaint o bobl yn defnyddio’r llwybrau cerdded, cul. Mae’r Parc Cenedlaethol yn helaeth ac iddo dros 520 milltir sgwâr. Nawr yw’r amser i ymweld ag ardaloedd llai poblogaidd a dod o hyd i fannau newydd. Rydym yn gofyn i bobl gynllunio o flaen llaw a chael Cynllun B rhag ofn iddynt gyrraedd a sylweddoli fod gormod o bobl yno.”