Perchnogion cŵn gofyn i clirio ar ôl ffrindiau pedair coes

Mae perchnogion cŵn nad ydynt yn clirio baw eu cŵn ar eu holau’n peryglu da byw ac anifeiliaid anwes eraill.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn atgoffa pobl sy’n mynd â’u cŵn am dro yng nghefn gwlad o’r hyn all ddigwydd os na fyddant yn clirio baw eu cŵn.

Bydd Steve Gray, Cyfarwyddwr Cyflenwi’r Awdurdod yn annog perchnogion cŵn sy’n defnyddio cefn gwlad i wneud eu rhan drwy gadw’r Parc yn lân i bawb ei fwynhau.

Dywedodd: “Mae’r rhan fwyaf o’r rhai sy’n cerdded eu cŵn yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn clirio’r baw.

“Ond mae lleiafrif sy’n dal i beidio â gwneud ac efallai nad ydynt yn sylweddoli faint o niwed y gall hynny ei achosi i dda byw a chŵn eraill.”

Mae baw ci yn cynnwys nifer o glefydau a pharasitiaid sy’n halogi’r tir, ac yn heintio ffynhonnell bwyd anifeiliaid. Felly, mae’n bosibl y caiff y cig ei gondemnio ac ni fydd y ffermwyr yn gallu ei werthu.

“Gall hyn effeithio’n sylweddol ar fywoliaeth y ffermwr,” ychwanegodd Mr Gray. “Yn ogystal â’r goblygiadau ariannol, gall effeithio mewn ffordd annymunol iawn ar bobl. Tocsocariasis yw’r mwyaf adnabyddus mae’n debyg a gall niweidio golwg person yn barhaol ac, mewn achosion eithriadol, gall achosi niwed niwrolegol. Gall yr wyau oroesi ar y ddaear am hyd at dair blynedd, felly mae’n bwysig clirio pob darn o dir i ddiogelu da byw yn y tymor hir.”

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gweitiho mewn partneriaeth â holl Barciau Cenedlaethol y DU a chynhyrchwyr The Dicky Bag i annog perchnogion cŵn i ymddwyn yn gyfrifol. Cafodd The Dicky Bag ei gynllunio i chi ei gario gyda chi pan fyddwch yn mynd â’ch chi am dro i roi baw ci ynddo. Mae’r bag yn lân, yn gryf, yn arogli’n ffres ac mae’n bosibl ei selio.

Maent ar gael i’w prynu yn siop ar-lein Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac yn ein Canolfannau i Ymwelwyr a’n Canolfannau Gwybodaeth.

Daeth Mr Gray o hyd i The Dicky Bag pan ymunodd â’r Awdurdod fel Cyfarwyddwr Cyflenwi’r mis diwethaf.

“Nid yw perchnogion cŵn yn mwynhau cario baw ci o gwmpas gyda nhw pan fyddant yn mynd am dro,” dywedodd. “Pan gefais i Dicky Bag am y tro cyntaf, roeddwn i’n ei weld yn hwylus iawn. Os yw’ch ci chi’n gwneud ei raid ar ôl i chi ddechrau cerdded, gall fod yn annymunol iawn ei gario nes byddwch yn dod o hyd i fin baw ci. Mae nwyddau fel hyn yn ardderchog a gallant ein helpu ni fel Awdurdod i gadw cefn gwlad yn lân ac yn daclus i bawb ei fwynhau.”