Gŵyl y Geoparc 2019

Mae Gŵyl Geoparc Fforest Fawr yn dechrau ddydd Sadwrn 25 Mai ac yn parhau tan ddydd Sul 9 Mehefin. Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn gwahodd pawb i ddod allan a darganfod y Geoparc, sy’n cynnwys hanner gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, drwy gyfres o ddigwyddiadau am ddim a theithiau cerdded.

Uchafbwynt yr ŵyl i deuluoedd fydd Diwrnod Gweithgareddau i Deuluoedd Gŵyl y Geoparc sy’n digwydd ym Mharc Gwledig Craig-y-nos  ar ddydd Mercher 29 Mai, 10am-4pm. Bydd y ddôl yn llawn dop o weithgareddau am ddim sy’n cynnwys cerfio cerrig, cloddio a phwll bach a chewch ddarganfod mwy am yr her 30 Diwrnod Gwyllt gydag Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Rhowch gynnig ar nyddu gyda Gild Tawe o Nyddwyr a Gwehyddwyr, neu beth am greu anifail bach gwlanog yng ngweithdai ffeltio â nodwydd Ffolky Ffelt. I’r rhai mwy anturus mae gwifren sip Absolute Adventure neu beth am ganŵio ar y llyn a dywedwch helo wrth Dinky Donkeys, Bertie & Goose o Good Day Out. Diwrnod allan perffaith i’r holl deulu!
(Codir tâl am barcio; £5 y car a £10 y bws-mini a rhaid i’r holl blant fod yng nghwmni oedolyn.) 

Dros ddwy wythnos Gŵyl y Geoparc mae yna raglen o deithiau cerdded tywysedig sy’n archwilio rhaeadrau, carneddau claddu a waliau crwydrol y gorllewin. Ar ddydd Iau 30 Mai ymunwch â’r botanegydd Charles Hipkin a’r swolegydd Michael Isaac ar daith o’r warchodfa natur genedlaethol yn Craig Cerrig-gleisiad. Archwiliwch Nant Crew gyda Huw Barrell, ceidwad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ar ddydd Mercher 5 Mehefin, gan fynd heibio rhaeadrau i Blaen Crew a Craig Gwaun Taf yn y Bannau Canolog. Ymunwch ag Alan Bowring, swyddog y Geoparc, ar daith o Cribarth, y gefnen galchfaen uwchben Parc Gwledig Craig-y-nos ar ddydd Iau 6 Mehefin. Geolwybr newydd y Geoparc ac un o fryniau mwyaf diddorol y Parc Cenedlaethol! Ac ar ddydd Gwener 7 Mehefin cerddwch i Garneddau Cefn Car i ddarganfod beth yw ‘wal grwydrol’.  

Mae’r manylion llawn yn cynnwys hyd ac amserau a sut i archebu lle ar wefan Gŵyl y Geoparc. Mae’r teithiau cerdded am ddim ond awgrymir rhodd i helpu gyda’r costau gweinyddu.  

Ewch i www.fforestfawrgeopark.org.uk am raglen lawn Gŵyl y Geoparc 2019 a dilynwch Geoparc Fforest Fawr ar Facebook ac Instagram @fforestfawrgeopark am y newyddion diweddaraf. 

DIWEDD