Canolfan Groeso TARDIS Talyllyn!

Mae prosiect i greu Canolfan Groeso mewn ciosg yn Nhalyllyn wedi llwyddo i ddod â hanes a diwylliant yn fyw yn ogystal â chynnig rhagor o ffyrdd gwych i grwydro a dysgu am ein Parc Cenedlaethol gwych ym Mannau Brycheiniog.

Ac er nad yw’r un maint â’r Tardis y tu mewn, mae’r Ciosg yn cynnig gwibdaith trwy amser i’w ymwelwyr gan roi darlun clir o hanes trigolion Talyllyn – ddim yn ffôl am un o Ganolfannau Croeso lleiaf y DU! 

Gyda chymorth grant o £5,907 gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae’r grŵp History of Llyn Syfaddan wedi llwyddo i ailddatblygu’r blwch ffôn model K6 eiconig, a ddyluniwyd yn 1935 gan y pensaer Syr Giles Gilbert Scott .

Dywedodd Roger Reece o’r grŵp mai’r bwriad oedd cau’r ciosg, nes i’r grŵp benderfynu gweddnewid un o nodweddion anwylaf Talyllyn. Ers mis Gorffennaf 2017, Cyngor Cymuned Llangors yw perchnogion balch y ciosg, a hynny trwy gynllun ‘Adopt a Kiosk’ British Telecom, ac mae’r Grŵp Hanes wedi ysgwyddo’r cyfrifoldeb am ei ddatblygu a’i reoli. Roedd angen tipyn o waith adnewyddu – a bellach y mae wedi’i baentio a’i drwsio, a byrddau gwybodaeth dwyieithog wedi’u gosod ynghyd â chasgliad o ffotograffau lleol a lle i fusnesau hysbysebu.

“Braf iawn yw gweld trawsnewidiad y ciosg yn Ganolfan Groeso fach i hyrwyddo ein hanes, ein diwylliant, a’n busnesau lleol, yn ogystal â chynnig pethau i ymwelwyr ei wneud.”

O fewn blwch coch Talyllyn, a godwyd yn 1966, ceir cyfres o daflenni a manylion am deithiau cerdded, gan gynnwys rhai i weld nodweddion rheilffyrdd cyfagos yn ogystal â nodweddion hanesyddol eraill yn ardal Llangors ac o amgylch y llyn.

Penderfynodd aelodau Pwyllgor y Gronfa Datblygu Cynaliadwy gefnogi datblygiad Canolfan Groeso yng nghiosg Talyllyn gan fod y prosiect yn cyd-fynd yn agos â dyletswyddau’r Awdurdod – sef cefnogi cymunedau lleol, hyrwyddo’r hyn sy’n gwneud y Parc Cenedlaethol yn arbennig, a diogelu’r tirlun naturiol er mwynhad pawb.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Ratcliffe, Cadeirydd newydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ei fod yn edrych ymlaen at ddarllen atgofion y pentref sydd wedi’u cadw ym Mlwch Atgofion y Ganolfan Groeso. “Mae hi’n bwysig ein bod ni’n cofio cenedlaethau’r gorffennol a’u cyfraniad nhw i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog,” meddai. “Mae’r Blwch Atgofion yma yn enghraifft wych o sut y gall cymunedau gofnodi hanes yn ogystal ag atgofion cyfredol, gan alluogi i ni fyfyrio arnynt yn y dyfodol.

“Mae gan Talyllyn etifeddiaeth ryfeddol. Rhedai ffordd ‘Hay Tram’ 1816 drwy’r pentref, gan arwain o lanfa’r gamlas yn Aberhonddu i’r Gelli Gandryll – ac yn ei blaen wedyn i swydd Henffordd a rheilffordd Kington. Roedd hi’n 36 milltir o hyd, ac ar y pryd hon oedd y rhwydwaith rheilffordd hiraf yn y byd. O’r 1860au hyd at yr 1960au cynnar, roedd Talyllyn yn gyffordd brysur lle deuai rheilffyrdd Brycheiniog a Merthyr a Chanolbarth Cymru ynghyd. Yma hefyd, ar un adeg, adeiladwyd y twnnel rheilffordd hiraf yn y byd. Rhaid cadw etifeddiaethau o’r fath yn y Parc Cenedlaethol, ac fel Cadeirydd yr Awdurdod rwy’n falch iawn ein bod yn cefnogi cymunedau i ddathlu eu diwylliant a’u treftadaeth leol.”

Mae’r gwaith o ddogfennu’r ddwy ganrif ddiwethaf yn Talyllyn wedi creu cyffro yn y pentref – a bydd yr agoriad swyddogol ar 3 Gorffennaf yn ffordd arbennig o ddathlu blwyddyn o waith.

Ychwanegodd Roger Reese: “Rydym yn falch iawn o’r Ganolfan Groeso yn y ciosg. Mae wedi dod â’r gymuned ynghyd, ac rydym yn gobeithio y bydd yn cynnig gwybodaeth ac yn difyrru pobl am flynyddoedd lawer.”

Am ragor o wybodaeth am Llyn Syfaddan History Group a’u gwaith, ewch i wefan y grŵp- https://www.llangorsehistory.org/

Am ragor o wybodaeth am ein Cronfa Datblygu Cynaliadwy, ewch i www.beacons-npa.gov.uk neu e-bostiwch sdf@beacons-npa.gov.uk

-DIWEDD-