Roedd amcanion cyffredin ac angerdd dros Fannau Brycheiniog

ROEDD amcanion cyffredin ac angerdd dros Fannau Brycheiniog yn amlwg yn y gynhadledd dwristiaeth flynyddol a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf.

Trefnodd Twristiaeth Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i dros 80 o fusnesau a chwmnïau sy’n darparu ar gyfer ymwelwyr ddod ynghyd yn Theatr Brycheiniog yr wythnos diwethaf.

Roedd y diwrnod yn gyfle i’r cynrychiolwyr ddysgu mwy am fusnesau ei gilydd a thrafod sut y gallant gydweithio i annog ymwelwyr i aros dros nos ym Mannau Brycheiniog yn hytrach na dod am y diwrnod yn unig.

Richard Tyler, Rheolwr Twristiaeth Gynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fod llawer i’w weld yn y Parc Cenedlaethol.

“Yn ogystal â’r mynyddoedd ysblennydd, mae cynifer o drysorau cudd ym Mannau Brycheiniog i ymwelwyr eu mwynhau,” meddai. “Mae nifer o’r cwmnïau ymwelwyr yn gwneud yn fawr o ddiwylliant a threftadaeth y Parc, felly gall ymwelwyr fwynhau’r dirwedd unigryw a dysgu llawer rhagor am hanes yr ardal.

“Bu’r digwyddiad yn gyfrwng i ysbrydoli busnesau a grwpiau cymuned i feddwl am ffyrdd gwahanol o gyfoethogi profiad ymwelwyr yn gyffredinol.”

O gofio bod 75% o ymwelwyr yn treulio dim ond diwrnod yn y Parc Cenedlaethol, roedd y gynhadledd yn gyfle i fusnesau drafod syniadau a’r hyn roedd angen iddynt ei wneud i annog ymwelwyr i aros dros nos a manteisio ar yr hyn roedd gan yr ardal i’w gynnig.

Dywedodd Laura Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Twristiaeth Bannau Brycheiniog y bu’r gynhadledd dwristiaeth flynyddoedd yn llwyddiant mawr.

“Roeddem wedi trefnu amrywiaeth dda o siaradwyr a phynciau i’w trafod, “ meddai. “Roedd yn braf gweld cynifer o fusnesau newydd yno a digon o rwydweithio’n digwydd drwy gydol y sesiwn. Roedd yn ffordd ysbrydoledig a chynhyrchiol o ddechrau’r tymor”.

Mr Tyler yn falch o weld cynrychiolwyr o bob rhan o’r Parc yn y gynhadledd.

“Roeddem yn falch iawn o groesawu cynifer o fusnesau ymwelwyr i’r gynhadledd,” meddai. “Roedd yn gyffrous gweld cynrychiolwyr yn trafod eu hamcanion cyffredin ac yn addunedu i gydweithio i hyrwyddo Bannau Brycheiniog fel cyrchfan. Mae cyfathrebu effeithiol yn allweddol ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r 5 miliwn o ymwelwyr rydym yn rhagweld y byddant yn dod i’r ardal yn 2019.”

Cafodd y gynhadledd ei threfnu ar y cyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Thwristiaeth Bannau Brycheiniog ar ran Partneriaeth Cyrchfan Gynaliadwy Bannau Brycheiniog. 

DIWEDD