Pobl ifanc yn ymrwymo i ddysgu sgiliau gwledig

Mae criw o bobl ifanc wedi cael eu llongyfarch am eu hymrwymiad a’u brwdfrydedd wrth iddynt ddysgu sgiliau gwledig newydd a chael profiad o greu dyfodol gwell ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Cynhaliodd Prince’s Trust Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ddigwyddiad i ddiolch i’r bobl ifanc 18-24 oed a gymerodd ran yn y Rhaglen Sgiliau Gwledig a chynorthwyo wardeniaid y Parc i wella a chynnal a chadw’r dirwedd fel bod modd i bawb ei fwynhau.

Mae’r prosiect Sgiliau Gwledig yn helpu grwpiau o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg na chyflogaeth i ymuno â wardeniaid a thimau allgymorth cymunedol a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a gweithdai sy’n rhoi blas iddynt o weithio yn y Parc Cenedlaethol.

Cafodd y rhaglen hon, a drefnwyd mewn partneriaeth, ei chyflwyno dros gyfnod o bythefnos, diolch i arian gan Arwain sef Rhaglen Leader Powys.

Arweinwyr y rhaglen oedd Ella Parkinson, Goruchwyliwr dan Hyfforddiant a Ceri Bevan, Swyddog Cymunedau Cynaliadwy, a hynny ar y cyd â Fran Richley, Swyddog Gweithredol Allgymorth Prince’s Trust Cymru, a chafodd y bobl ifanc fynd i wahanol leoliadau fel Bro’r Sgydau, Parc Gwledig Craig y Nos ac ardaloedd o’r Geoparc.  Cawsant gymryd rhan mewn gweithgareddau fel adeiladu meinciau, trwsio a gwneud ffensys gwiail a chynnal a chadw’r tir.

Dywedodd Harri Davies, 22 oed, o Graig y Nos, fod ei agwedd at reoli tirwedd wedi newid yn llwyr ar ôl cwblhau’r cwrs.

“Y tro nesaf y bydda’ i’n cerdded ar hyd llwybr pren wedi’i glymu â gwifrau, mi fydda’ i’n gwybod sut a pham y cafodd ei adeiladu,” meddai. “Rwy’n gwerthfawrogi pensaernïaeth y dirwedd yn awr ac yn deall llawer mwy am y gwahanol gynefinoedd a’r bywyd gwyllt.

“A phan fydda’ i’n ymweld â Pharc Gwledig Craig y Nos ac yn eistedd ar un o’r meinciau’r tu allan i’r siop goffi, gallaf ymfalchïo yn y ffaith mi fi adeiladodd y meinciau hynny.” 

Dywedodd Sam Flipping, 26 oed o Aberhonddu, fod pawb yn dawedog ac yn swil ar ddechrau’r bythefnos.

“Dechreuais fagu hyder,” meddai. “Erbyn diwedd y rhaglen, roeddem i gyd yn cyd-dynnu’n dda iawn.”

Dywedodd Fran Richley ei fod wedi bod yn gweithio gyda’r bobl ifanc a’r rhaglen Sgiliau Gwledig o’r dechrau un. 

“Ac rwyf wedi mwynhau pob eiliad,” meddai. “ Rwyf mor falch o’r criw yma a phob person ifanc sydd wedi wynebu’r heriau amrywiol fel rhan o’r rhaglen. Mae un peth yn sicr – y rhan orau o’r rhaglen yw cymharu’r bobl ifanc ar ddechrau pob rhaglen â’r bobl ifanc y byddaf yn eu gweld ar y diwedd. Maent yn tyfu mewn cymaint o wahanol ffyrdd drwy gyflawni elfennau’r cwrs.”

Daeth y Cynghorydd Karen Laurie-Parry, sy’n cynrychioli’r Awdurdod Parc Cenedlaethol a Chyngor Sir Powys, i Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol i gwrdd â’r bobl ifanc a chlywed am yr heriau y maent wedi’u hwynebu a’r hyn y maent wedi’i ddysgu am Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. 

“Mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol os ydym am gwrdd â’r heriau sy’n wynebu’r genhedlaeth iau,” meddai. “Mae prosiectau fel hyn, sy’n cael eu cyflwyno ar y cyd â Prince’s Trust Cymru yn ein helpu ni i greu perthynas â’r bobl ifanc nad ydynt mewn addysg na chyflogaeth. Drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol, maent yn gweld sut y gall gweithio mewn amgylchedd gwledig gyfoethogi’r meddwl, eu cadw’n iach ac yn egnïol a chynnig gwaith a all eu helpu i greu dyfodol da.

“Mae’r bartneriaeth rhwng yr Awdurdod a Prince’s Trust Cymru a Chyngor Sir Powys yn un werthfawr iawn gan ei bod yn ein helpu i gyflawni’n dyletswydd i hybu cymunedau cynaliadwy.”