Mae Pythefnos Darganfod y Parciau yn cychwyn y penwythnos yma

Heddiw (6 Ebrill) yw cychwyn Pythefnos Darganfod y Parciau Cenedlaethol – pythefnos o ddathliadau ar draws y DU gyda digwyddiadau a gweithgareddau yn rhedeg trwy wyliau’r Pasg er mwyn ysgogi pobl o bob oed i fwynhau, mentro a dysgu mwy am y llefydd arbennig yma.

Mae pymtheg Parc Cenedlaethol y DU yn unigryw – mae gan rai fynyddoedd uchel eraill a gwlyptiroedd troellog a rhai gyda arfordiroedd dramatig. Mae nhw’n cynnig cyfloedd diddiwedd i ddarganfod, dysgu ac ymlacio trwy amryw o ffyrdd megis antur gyda’r rhai bychan, taith hamddenol gyda’r teulu, gweithgareddau anturus i bobl ifanc i’w temtio ffwrdd o’i ffonau neu ddigwyddiadau diwylliedig yn canfod hanes arbennig y Parciau Cenedlaethol. Darganfyddwch fwy am yr amrywiol ddigwyddiadau a gweithgareddau yn nationalparks.uk/discover.

Mae’r flwyddyn yma’n dynodi 70 mlynedd ers Deddf 1949 y Parciau Cenedlaethol a Mynediad Cefn Gwlad wnaeth arwain at sefydlu Parciau Cenedlaethol yn y DU.

Dywedodd John Packman, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol y Broads: 

“Mae’r pymtheg Parc Cenedlaethol wedi eu creu er mwyn gofalu am y tirweddau arbennig ar draws y DU, ac yn gwneud hyn ar ran pawb yn y wlad. Mae pen-blwydd 70 y Parciau yn amser perffaith i ni annog pobl – p’run a’i ydyn nhw’n byw yn un o’r Parciau neu yng nghanol dinas – i ddarganfod straeon amrywiol ac ysbrydoledig y pymtheg Parc Cenedlaethol.”

“Mae’r newyddion yn llawn straeon am bwysigrwydd ein iechyd meddwl a corfforol a mae treulio amser ym myd natur yn enwedig yn nyddiau’r cyfryngau cymdeithasol a byd digidol yn llesol. Mae’r Parciau Cenedlaethol yn cynnig rhai o lecynnau gorau’r wlad i droi ffwrdd a phrofi cysylltiad a’n tirluniau, ein bywyd gwyllt, ein ffrindiau, ein teuluoedd a’n hunain.”

“Mae Darganfod y Parciau Cenedlaethol yn gyfle i amlygu pam bod y Parciau Cenedlaethol yn nodedig ledled y byd a pham bod angen i bawb ein helpu i’w gwarchod. Yn wahanol i amryw o Barciau Cenedlaethol ar draws y byd, mae ein tirluniau ni yn rhai byw, yn llawn o bobl – gyda amryw o bentrefi, trefi a hyd yn oed dinasoedd o fewn ffinau’r Parciau. Does dim giatiau na chôst mynediad a mae pobl yn byw ac yn gweithio yma. Mae hyn yn golygu ein bod yn fodelau byw ar gyfer dyfodol cynaliadwy gall rhannau eraill o’r DU ac o’r byd ddysgu gennym”.

Ymunwch â ni drwy ddefnyddio #PythefnosyParciau2019 a #DarganfodyParciauCenedlaethol gydol y flwyddyn.

DIWEDD