MAE paneli solar yn cyfrannu’n sylweddol at un o brif amcanion Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

MAE paneli solar yn cyfrannu’n sylweddol at un o brif amcanion Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sef cynhyrchu mwy o ynni nag y mae’n ei ddefnyddio. 

Mae’r paneli sydd newydd eu gosod yn depo’r Awdurdod ar Ystâd Ddiwydiannol Aberhonddu wedi cynhyrchu digon o ynni solar i yrru car trydan am 1374 o filltiroedd, o Lands End i John O’Groats, gan alw heibio i bob Parc Cenedlaethol yn y DU ar y ffordd.

Ac yn awr mae gwaith yn mynd rhagddo i wella’r paneli solar yng Nghanolfan Wybodaeth Cwm Porth a gosod paneli solar yng Nghanolfan Ymwelwyr Craig y Nos.

Cafodd y paneli yn depo’r Awdurdod yn Aberhonddu eu gosod ddiwedd mis Ionawr. Rhwng 1 Chwefror ac 1 Mawrth, cafodd digon o ynni ei gynhyrchu gan y rhain i oleuo bwlb golau 100 wat yn ddi-dor am 150 o ddyddiau, sef 361kw yr awr.

Mae’r data ar gyfer mis Mawrth i’w gweld yn fwy calonogol eto, ac mae’r paneli wedi cynhyrchu bron 500kW yr awr mewn tair wythnos.

“At ei  gilydd, rydym wedi llwyddo i arbed £80 ar ein biliau ynni mewn dau fis,” meddai Kevin Booker, Swyddog Systemau TG a’r Fflyd, sydd wedi bod yn goruchwylio’r gwaith o greu mannau gwefru ceir trydan ym meysydd parcio’r Awdurdod. “Diolch i’r Gronfa Twf Gwyrdd, byddwn yn prynu dau gar a fydd yn rhedeg ar danwydd yn unig yn lle dau o’n ceir fflyd, a byddwn hefyd yn ychwanegu cerbyd hybrid tua diwedd y gwanwyn.”

Roedd Gareth Ratcliffe, Dirprwy Gadeirydd yr Awdurdod wedi synnu bod cymaint o ynni wedi’i gynhyrchu yn ystod mis Chwefror, pan na welsom rhyw lawer o heulwen. 

“Roedd yn syfrdanol gweld y manteision hyn ar ôl dim ond mis,” meddai. “Byddai’n bosibl golchi 360 llwyth mewn peiriant golchi â’r ynni y mae’r paneli hyn yn eu cynhyrchu, sy’n gorchuddio dim ond 54 metr sgwâr. Rydym yn cydnabod effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ac yn awyddus i arwain drwy esiampl. Gallai ein hymdrechion i fod yn fwy hunangynhaliol ein helpu i gyflawni’n hamcan o gynhyrchu mwy o ynni nag yr ydym yn ei ddefnyddio. Mae’n wirioneddol galonogol gweld ein bod yn gallu arbed cymaint o ynni drwy roi prosiect solar cymharol fach ar waith.”

Diwedd