Arian i helpu elusen gadwraeth i ffwrdd

Mae elusen newydd sy’n awyddus i ennyn diddordeb cymuned Cwmaman ym maes gwarchod adar, a hynny drwy gyfrwng gwaith coed, wedi cael hwb ariannol diolch i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae Prosiect Cysylltiadau Cymunedol Menter Gwarchod Natur Cymru (INCC) wedi cael arian cyfatebol gwerth £3,231 gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy.

Mae grant o £2,785 ar gael eleni i helpu gwirfoddolwyr i wneud tua 100 o flychau adar i’w gosod mewn mannau strategol yng Nghoetiroedd Cwmaman i fonitro adar fel Telor y Coed, y Gwybedog Brith a’r Tingoch yn yr ardal. 

Bydd y Prosiect Cysylltiadau Cymunedol yn gweithio gyda gwirfoddolwyr a grwpiau cymuned lleol yn Nyffryn Aman i adeiladu a gosod dwsinau o flychau adar a fydd wedi’u dylunio’n arbennig ar gyfer y Gwybedog Brith sy’n mynd yn gynyddol brin. Bydd yr aderyn bach hwn yn dychwelyd i Gymru am ychydig fisoedd bob gwanwyn i fridio, cyn dychwelyd yr holl yn ôl i Orllewin Affrica. Er bod poblogaeth y Gwybedog Brith yn prinhau ers cryn amser, mae’n parhau’n gymharol sefydlog yng Nghymru gan ei fod yn hoffi nythu mewn coetiroedd derw ar dir uchel, lle y gall fwydo ar lindys a phryfed eraill. 

Dywedodd Deborah Perkin, Cadeirydd Pwyllgor y Gronfa Datblygu Cynaliadwy: “Rydym bob amser yn falch o weld grwpiau newydd yn ffurfio ar draws y Parc Cenedlaethol i hybu bywyd gwyllt a chymunedau’r ardal. Mae’n arbennig o braf gweld bod yr elusen yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Tref Cwmaman a’u cyfleusterau gwaith coed ardderchog.

“Mae’r gwaith o gynhyrchu blychau adar a monitro’r adar sy’n eu defnyddio’n rhan hanfodol i waith cadwraeth, ac rwy’n siŵr y bydd yr holl wirfoddolwyr yn mwynhau’r profiad yn fawr.”

Ar ôl gosod y blychau adar, bydd yr elusen yn cofnodi’r rhywogaethau adar a mathau eraill o fywyd gwyllt yn y coetir lleol ac yn rhannu’r wybodaeth ag ecolegwyr yr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a sefydliadau eraill. Bydd £446 ychwanegol ar gael y flwyddyn nesaf (2019/20) i drefnu teithiau tywysedig ac i bwyso a mesur effaith y prosiect.

Dywedodd Rob Parry, Prif Weithredwr INCC: “Dylai coetiroedd derw Dyffryn Aman fod yn gynefin delfrydol i’r Gwybedog Brith ac adar mudol a chynhenid eraill. Diolch i’r bartneriaeth, gall INCC yn awr ymfalchïo yn y bywyd gwyllt yn y dyffryn gyda’r cymunedau lleol a’u helpu i arwain y gwaith o warchod natur yn yr ardal.”

Penderfynodd Robert Venus, Swyddog Datblygu Cymunedol Cyngor Tref Cwmaman, adael Cwmaman am rai blynyddoedd i weithio mewn dinasoedd a dywedodd ei fod yn cytuno’n llwyr â sylwadau’r rhai sy’n byw yn y dyffryn, a’r rhai sy’n ymweld â’r ardal, pan ddywedant mai ein safleoedd naturiol yw’n hasedau mwyaf gwerthfawr.

“Rydym yn falch iawn o weithio gydag INCC i roi’r prosiect hwn ar waith,” meddai, “Rwy’n teimlo y bydd yn cael effaith sylweddol ar gynaliadwyedd ecoleg yr ardal yn y dyfodol ac y bydd yn hwb i’r ymdeimlad cymunedol drwy annog pobl i ymwneud â’n hased gorau.

Dywedodd Julian Atkins, Prif Weithredwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol, fod yr Awdurdod yn awyddus i gefnogi elusennau sy’n ein helpu i gyflawni’n hamcanion o ddiogelu cynefinoedd lleol.

“Mae’r manteision cymdeithasol ac amgylcheddol sydd ynghlwm wrth y prosiect hwn yn golygu bod yr aelodau’n falch o helpu’r elusen i ddechrau ar ei gwaith,” meddai. “Roedd yn galonogol gweld bod yr elusen yn bwriadu defnyddio adnoddau cymuned sydd ar gael yn y gweithdy sy’n cael ei redeg gan Gyngor Tref Cwmaman.”

I gael rhagor o wybodaeth am y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, cysylltwch â sdf@beacons-npa.gov.uk  neu ffoniwch 01874 624437. Os hoffech ragor o wybodaeth am INCC cysylltwch â Robert Jones Parry Rob.parry@incc.wales neu ffoniwch 01558 667181.