Safleoedd Tir yn Eisiau ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gwahodd y cyhoedd, perchnogion tir a datblygwyr i gynnig safleoedd posibl ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) sydd ar y gweill. Mae’r Awdurdod yn croesawu safleoedd at wahanol ddefnyddiau tir gan gynnwys cyflogaeth, preswyl, twristiaeth, gwastraff a chymuned.

Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn darparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer datblygu a defnyddio tir o fewn y Parc Cenedlaethol ac mae’n cael ei adolygu ar hyn o bryd. Fel rhan o’r adolygiad mae’r Awdurdod yn gofyn am safleoedd ymgeisiol; gan roi cyfle i berchnogion tir a’r cyhoedd gyflwyno tir y maent yn dymuno iddo gael ei ystyried i’w ddatblygu.

Nid oes sicrwydd y bydd safleoedd arfaethedig yn cael eu datblygu yn y CDLl, serch hynny bydd eu cyflwyno’n galluogi’r Awdurdod i asesu argaeledd safleoedd pan wrth ystyried gofynion tir datblygu ac opsiynau strategol ar gyfer datblygu.

Dywedodd Julian Stedman, Cadeirydd Pwyllgor Cynllunio a Hawliau Tramwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn rhoi cyfle i’r cyhoedd helpu i lywio tirwedd y dyfodol. Hoffem wahodd y cyhoedd, perchnogion tir a datblygwyr i gyflwyno safleoedd posibl i’w cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol.”

Ychwanegodd Julian Atkins, Prif Swyddog Gweithredol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn hanfodol i’r Parc Cenedlaethol, a phwrpas yr adolygiad hwn yw adnabod a oes angen gwneud unrhyw addasiadau mewn perthynas â newid mewn amgylchiadau cenedlaethol a lleol. Os oes gan y cyhoedd unrhyw syniadau o ran safleoedd, yna rydym yn eu hannog i ddefnyddio ein gwefan a chyrchu’r holiadur asesu.”

Gellir cael rhagor o wybodaeth ynglŷn â safleoedd ymgeisiol yma.

 

  – DIWEDD –