Gwobrwyo Gwirfoddolwyr y Parc Cenedlaethol

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cydnabod gwaith caled ac ymrwymiad ei wirfoddolwyr ac wedi rhoi tair Gwobr “Gwirfoddolwr y Flwyddyn, Huw Price” mewn cyflwyniad ym Mhencadlys y Parc Cenedlaethol.

Huw Price oedd Swyddog Datblygu Gwirfoddol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Bu farw Huw yn 2014 a sefydlwyd cronfa er cof amdano. Mae’r gwobrau’n dathlu’r angerdd oedd gan Huw dros weithio i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’i ymrwymiad i’r gwirfoddolwyr. Cyflwynodd Henry, mab Huw Price sy’n wyth oed, y gwobrau i Eddie Procter, John Holden a Ross Duffield (ar ran Keith Crook).

Derbyniodd Eddie Procter y wobr fel arweinydd tîm sydd wedi gwasanaethu hiraf gyda Grŵp Gwirfoddoli’r Ucheldir, a ddechreuodd gydag wyth gwirfoddolwr yn y Mynyddoedd Duon yn 2012. Nod y prosiect gwreiddiol oedd datblygu arweinwyr timau gwirfoddoli a fyddai’n rheoli grwpiau ac yn helpu i gynnal rhwydwaith llwybrau’r ucheldir. Ers hynny, mae’r grŵp wedi datblygu a gyda chyllid drwy’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy crëwyd grŵp arall yn y Bannau Canolog, ac yna Grŵp Cadwraeth yr Ucheldir. Mae Gwirfoddolwyr yr Ucheldir bellach yn rhan fawr o, ac yn chware rhan sylfaenol yng nghynllun rheoli ucheldir Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae John Holden wedi bod yn gwirfoddoli gyda’r Parc Cenedlaethol am wyth mlynedd ar hugain, a dechreuodd drwy wneud gwaith ymarferol ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus gyda’r Wardeiniaid yn ardal y Fenni. Mae ef a’i wraig wedi gwirfoddoli ar y cynllun ‘Mabwysiadu Llwybr’, ac mae hefyd yn un o wirfoddolwyr y meysydd parcio ers tro.

Nid oedd Keith Crook yn medru dod i’r seremoni, ond rhoddwyd gwobr iddo am ei gyfraniad fel Gwirfoddolwr yr Ucheldir dros y chwe blynedd ddiwethaf. Fel defnyddiwr Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent, mae gwirfoddoli wedi bod yn rhan o wellhad ac adferiad Keith.

Roedd Henry, sy’n wyth mlwydd oed, yn falch iawn o gyflwyno’r gwobrau er cof am ei dad, a dywedodd:

“Mae helpu a chefnogi’r gwirfoddolwyr yn beth da am eu bod nhw’n gweithio’n galed i ofalu am y Parc Cenedlaethol fel bod pobl sy’n ymweld â’r lle yn gallu ei fwynhau.”

Ychwanegodd Julian Atkins, Prif Swyddog Gweithredol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Mae’r gwobrau hyn yn arbennig iawn i bob un ohonom yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Gyntaf oll, oherwydd eu bod nhw’n ddathliad o fywyd Huw ac maen nhw’n rhoi’r cyfle i ni gofio amdano a’r angerdd oedd ganddo tuag at y Parc. Yn ail, maen nhw’n cydnabod gwaith ysbrydoledig ein gwirfoddolwyr, yr ydym yn gwerthfawrogi eu gwaith a’u hymroddiad. Hoffwn longyfarch Eddie, John a Keith ar eu gwobrau, ond hoffwn hefyd ddiolch i bob un o’n gwirfoddolwyr sy’n helpu i wneud Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog y lle bendigedig ydyw.”

 – DIWEDD –