Gweithwyr dan Hyfforddiant yn Llwyddo i gael Swyddi

Yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf, mae 42 o bobl ifanc wedi cael eu hyfforddi ar gyfer cyfleoedd gwaith mewn swyddi sy’n ymwneud â’r tir drwy Sgiliau ar Waith – cynllun Hyfforddi sy’n cael ei arwain gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae’r prosiect hynod lwyddiannus hwn, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri – Sgiliau ar gyfer y Dyfodol, wedi rhoi hyfforddiant achrededig, cefnogaeth i ddatblygu gyrfa a chyfle i ennill sgiliau galwedigaethol i’r rhai sy’n cymryd rhan wrth iddyn nhw weithio gyda staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Datblygwyd y cynllun yn dilyn adroddiad gan Lantra oedd yn nodi bod prinder o sgiliau’n ymddangos yn y sector amgylcheddol sy’n ymwneud â’r tir gan gynnwys swyddi Wardeiniaid, Swyddogion Cadwraeth, Adeiladwyr Waliau Cerrig, Gweithwyr/Contractwyr Ystadau a Swyddogion Cymunedol.

Llwyddodd gweithwyr oedd dan hyfforddiant yn y ddau Barc Cenedlaethol i gael gwaith gyda’r Awdurdodau Parc Cenedlaethol a symudodd eraill i swyddi sy’n ymwneud â’r tir yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, gan amlygu llwyddiant cyffredinol y prosiect.

Roedd Tony Murray o Sir Gaerfyrddin dan hyfforddiant ar y cynllun a llwyddodd i gwblhau Diploma Lefel 2 mewn Cadwraeth Amgylcheddol drwyddo, yn ogystal ag amrywiaeth o dystysgrifau sgiliau ymarferol. Mae bellach yn cael ei gyflogi gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fel Goruchwyliwr dros y rhai dan hyfforddiant mewn prosiect sy’n bartneriaeth â Prince’s Trust Cymru.

Steffan Edwards oedd un o’r rhai cyntaf i gael hyfforddiant ar y cynllun, pan hyfforddodd hefyd i gael Diploma Lefel 2 mewn Cadwraeth Amgylcheddol a gweithio gyda Wardeiniaid y Parc Cenedlaethol. Mae Steffan bellach yn gweithio i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn llawn amser ac mae’n aelod gwerthfawr o’r Tîm Wardeiniaid.

Cymrodd Gavin Vella ran yn y cynllun ac ar ôl hyfforddi cafodd waith fel Ceidwad Parc Tymhorol yng Nghronfa Ddŵr Llandegfedd. Mae nawr yn gweithio fel ymchwilydd bywyd gwyllt i gwmni teledu.

Wrth siarad am brosiect Sgiliau Ar Waith, dywedodd Gavin;

“Rhoddodd y cynllun amser ac adnoddau i mi ddatblygu agweddau allweddol rheoli tir yn ymarferol, a chanolbwyntio ar fy ngyrfa ddewisol hefyd, sef cadwraeth amgylcheddol. Roedd y gefnogaeth a gefais gan staff Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn anhygoel ac mae eu gwerthoedd gwaith yn uchel iawn. Cariodd y gefnogaeth hon ymlaen ymhell ar ôl i mi orffen y cynllun.”

Dywedodd Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog;

“Dyma un o’r cynlluniau mwyaf gwerthfawr ac a wnaeth i mi deimlo fwyaf diymhongar yn ystod fy wyth mlynedd yn y Parc. Ar ôl siarad â nifer o’r bobl ifanc sydd dan hyfforddiant, dwi’n gwybod ein bod ni wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’w bywydau nhw. Llongyfarchiadau i bawb ac edrychwn ymlaen at barhau â’r gwaith da yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Julian Atkins, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog;

“Rydyn ni wedi arwain y prosiect hwn yn llwyddiannus ac wedi gweithio’n agos gyda’n partneriaid ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Mae tirwedd wledig y Parc Cenedlaethol yn werthfawr iawn ac mae’r cynllun hwn wedi ein galluogi ni i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o bobl fedrus i help gwarchod a chyfoethogi’r Parc ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, sy’n un o’n blaenoriaethau sylfaenol. Llwyddon ni i nodi prinder o sgiliau diolch i adroddiad Lantra ac mae prosiect Sgiliau ar Waith wedi ein galluogi ni i hyfforddi ac achredu pobl ifanc sydd wedi symud ymlaen a chael gwaith mewn swyddi sy’n ymwneud â’r tir.”

– DIWEDD –