Yr Adran Gynllunio yn arbed papur

Bydd Adran Gynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn troi’n fwy cynaliadwy ac yn cefnogi agenda electronig y Llywodraeth, drwy arbed papur o 1 Mai 2018.

Drwy adolygu ein gweithdrefnau gwaith presennol ein nod yw darparu gwasanaeth sydd yn fwy effeithlon ac un sydd wedi ei moderneiddio. Bydd pob cais cynllunio bellach yn cael ei drin mewn ffordd electronig gan ddefnyddio gwell technoleg. Rydyn ni eisoes yn ymgynghori â nifer o’n cysylltiadau’n electronig a cham terfynol y broses hon yw ymgysylltu â phob Cyngor Cymuned a Chyngor Tref yn y Parc Cenedlaethol yn yr un ffordd.

Dwedodd Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog;

“Mae’n hanfodol ein bod ni yma yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn effeithlon a chynaliadwy, mae agenda electronig y Llywodraeth yn gwella arfer gwaith a’r defnydd a wneir o’n hadnoddau, yn ogystal â gwella’r effaith a gawn ar yr amgylchedd. Rydyn ni’n gwybod y bydd ein partneriaid yn ein cefnogi yn y fenter bositif a ‘gwyrdd’ hon.”

 – DIWEDD –