Y 10 prif beth i’w gweld a’u gwneud yn Geoparc Fforest Fawr dros y Pasg

Wyddech chi fod rhan orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Geoparc yn ogystal? Mae Geoparc Byd-eang UNESCO Fforest Fawr yn ymestyn o Aberhonddu a’r Bannau Canolog yn y dwyrain yr holl ffordd i Landeilo yn y gorllewin. Dyma deisen haenog o greigiau sydd wedi cracio a chrimpio dan bwysau daearegol dros 480 miliwn o flynyddoedd ei greu, ac mae’n enwog am dirwedd syfrdanol, hanes diwydiannol a’r bobl sydd wedi cael rhan yn ei ffurfio. Felly beth am fynd tua’r gorllewin dros y Pasg i ddarganfod eangderau maith, mynyddoedd a gerfiwyd gan ia, cestyll, bryngaerau ac awyr y nos yn llawn o sêr yn y Geoparc. Dyma 10 o bethau i’w gweld a’u gwneud dros wyliau’r Pasg.

  1. Mynd am dro – I’r rheiny sydd wedi hen arfer â cherdded, mae’r Geoparc yn gyrchfan ardderchog ar gyfer mynd am dro am ddiwrnod cyfan. Anelwch am gopa Fan Brycheiniog (802m) sy’n rhan o’r Mynydd Du yn y gorllewin eithaf; mae’n rhan o Ffordd y Bannau. Os ydych chi eisiau mynd am dro ychydig yn llai heriol, rhowch gynnig ar ddringo Pen-y-Crug uwchlaw Aberhonddu.
  2. Mynd ar eich beic – I feicwyr mynydd, mae dolen gylchynol Cronfa Ddŵr Wysg yn lle da i ddechrau, ac i feicwyr heol, rhowch gynnig ar lwybr Beicio ar Draws y Bannau. Mae’r daith, sy’n dechrau yn Llandeilo, yn cynnwys rhai o rannau harddaf y Geoparc a’r Parc Cenedlaethol, cyn terfynu yn y Fenni.
  3. Dringo i ben bryngaerGarn Goch yw un o’r bryngaerau mwyaf o’r Oes Haearn yng Nghymru. Ewch â’r teulu a dringwch dros y muriau, dychmygwch sut le fyddai yma 2500 o flynyddoedd yn ôl, ac ymhyfrydwch yn y golygfeydd bendigedig o’r copa.
  4. Concro castell – Mae Castell Carreg Cennen ger Llandeilo, wedi’i leoli mewn llecyn hardd a rhamantus ar fryn creigiog ger y Mynydd Du. Ewch â fflachlamp gyda chi er mwyn mentro i’r ogof o dan y castell.
  5. Archwilio chwarel – Ar un adeg roedd Chwarel Herbert yn gloddfa galchfaen brysur; bellach mae’n lle eithriadol ddiddorol sy’n cynnig golygfeydd ysgubol dros y Geoparc.
  6. Geogelcio – Anelwch am Gomin Mynydd Illtud, Libanus i hela’r wyth geogelc sydd wedi’u cuddio ar y comin. Dyma helfa drysor ar gyfer y teulu cyfan!
  7. Gweld Sêr – Cronfa Ddŵr Wysg yw’r man tywyllaf yn y Geoparc, sy’n rhan o’r Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Delfrydol ar gyfer syllu ar y sêr; edrychwch i fyny ar noson glir, ac fe welwch chi awyr sy’n llawn dop o sêr, ac efallai hyd yn oed y Llwybr Llaethog yn arllwys ar draws awyr y nos.
  8. Cerdded gyda’r Rhufeiniaid – Camwch yn ôl drwy amser yng Ngwersylloedd Martsio’r Rhufeiniaid yn Y Pigwyn a Waun-Ddu ger Trecastell. Lawrlwythwch yr ap ‘Taith Gerdded Rufeinig’ cyn i chi ymweld, a gadewch i’r cymeriadau Rory a Primus eich arwain o gwmpas y safle.
  9. Ymweld â pharc o fewn parc – Ar un adeg, Parc Gwledig Craig-y-nos oedd Gardd Fictoraidd y gantores opera fyd-enwog, Adelina Patti. Dilynwch y llwybrau sy’n addas i deuluoedd drwy’r goedwig, heibio i afonydd a llynnoedd a phwll hwyaid bywiog. Mynnwch eich cinio yng Nghaffi’r Changing Seasons a phorwch yn y siopau crefft.
  10. Gweld barcud coch – Dewch i wylio arddangosfa gyffrous yn yr awyr fry wrth i’r barcud coch a’r boda blymio i fwydo yng Ngorsaf Fwydo’r Barcud Coch yn Llanddeusant.

Ewch i  www.breconbeacons.org i ddysgu rhagor.

 – DIWEDD –