Gwelliannau i Lwybr Troed yn Y Gelli Gandryll

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi gwella dros gilomedr o lwybr sy’n cydredeg ag afon Wysg yn nhref Y Gelli Gandryll. Mae’r prosiect partneriaeth yn cynnwys gweithio gydag un o’r trigolion lleol, y Paralympydd Josie Pearson, Cyngor Tref Y Gelli Gandryll ac Ymddiriedolaeth Warren.

Mae arwyneb y llwybr wedi ei wella a bydd yn gwella mynediad, gan gael gwared ar unrhyw rwystrau sy’n atal pobl rhag defnyddio’r llwybr.

Mae’r gwaith yn rhan o brosiect cenedlaethol ehangach yn y DU o’r enw  ‘miles without stiles’ sy’n canolbwyntio ar wella mynediad i lwybrau a rhwydweithiau o fewn Parciau Cenedlaethol y DU.  Mae’r prosiect yn ymateb i’r rheiny sy’n ei gweld hi’n anodd cael mynediad i gefn gwlad am amryw o resymau, gan gynnwys trafferthion corfforol, incwm isel, heb drafnidiaeth neu’n wynebu rhwystrau diwylliannol neu ffisiolegol.

Mae’r gwaith o amgylch Y Gelli Gandryll wedi’i arwain gan Josie Pearson, sydd wedi bod yn rhan allweddol o drafod telerau gyda thirfeddianwyr a sicrhau datblygiad y prosiect. Meddai:

“Mae’r Parciau Cenedlaethol yno i’w mwynhau gan bawb, a thrwy wella mynediad, gellir annog a rhoi hyder i fwy o bobl fwynhau’r awyr agored a gwella eu llesiant. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod ynghlwm â’r prosiect, gan gynnwys y cydweithrediad gwych gan y tirfeddianwyr a ffermwyr.”

Ariannwyd y gwelliannau i’r llwybr gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Rhaglen Ariannu Cynllun Gwelliannau Hawliau Tramwy Llywodraeth Cymru. Ychwanegodd Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Mae gan y gwaith sy’n cael ei gwblhau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyswllt agos â ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ Llywodraeth Cymru, sy’n anelu at wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae hwn yn brosiect gwych arall ac yn gwneud y Parc yn hygyrch i fwy o bobl ac yn cael gwared ar unrhyw rwystrau sy’n eu hatal rhag mwynhau’r awyr agored.”

 – DIWEDD –