Bannau Brycheiniog’ yn ennill gwobr ‘Cyrchfan Orau’ mewn Gwobrau Cenedlaethol

Dyfarnwyd Bannau Brycheiniog yn enillydd ‘Cyrchfan Orau’ Cymru yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2018, a gynhaliwyd yn y Celtic Manor.

Mae Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru, a drefnir gan Croeso Cymru, yn dathlu’r gorau o dwristiaeth Cymru drwy arddangos busnesau twristiaeth y wlad a chyraeddiadau’r diwydiant.

Cyflwynwyd ‘Bannau Brycheiniog’ ar gyfer categori’r ‘Cyrchfan Orau’ gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Thwristiaeth Bannau Brycheiniog, ar ran Partneriaeth Cyrchfan Bannau Brycheiniog, ac fe’u dewiswyd fel enillwyr rhanbarthol ar gyfer Canolbarth Cymru. Yna fe enillon nhw’r wobr fawreddog yn seremoni’r Gwobrau Cenedlaethol, gan guro Dyffryn Gwy a Fforest y Ddena (De Ddwyrain Cymru), Zip World (Gogledd Cymru) a Chroeso Bae Abergwaun (De Orllewin Cymru).

Yr Arglwydd Elis-Thomas, y Gweinidog dros Dwristiaeth, a gyflwynodd y Gwobrau, a dywedodd:

“Mae’r Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol yn arddangos yr ansawdd a’r amrywiaeth o brofiadau sydd ar gael yma yng Nghymru – a hefyd yn dangos ymrwymiad a phroffesiynoldeb ein sector twristiaeth bywiog sy’n darparu’r profiadau hyn ac yn croesawu ein hymwelwyr i Gymru.

“Mae’r diwydiant yn gwneud gwaith anghredadwy, ac rwy’n falch iawn o bawb sy’n gweithio yn y sector, ac sy’n helpu i ddangos Cymru i’r Byd. Mae gennym bob rheswm dros fod yn hyderus am y dyfodol – yn hyderus am yr hyn sydd gennym i’w gynnig, yn hyderus am sut yr ydym yn ei gynnig ac yn hyderus y bydd y rheiny sy’n ymweld â Chymru yn cael profiad cofiadwy ac o safon uchel. Llongyfarchiadau mawr i chi i gyd ar eich cydnabyddiaeth haeddiannol.”

Dewiswyd yr enillwyr terfynol o blith 44 o enillwyr rhanbarthol, a ddewiswyd o dros 400 o ymgeiswyr. Dywedodd Croeso Cymru bod safon yr ymgeisiau yn eithriadol o uchel ar draws Cymru eleni. Roedd cyfanswm o saith enillydd rhanbarthol o fewn Cyrchfan Bannau Brycheiniog, ar draws y gwahanol gategorïau. Mae hyn yn tanlinellu ansawdd y cynnyrch twristiaeth o fewn yr ardal ac yn cyfiawnhau’r wobr ‘Cyrchfan Orau’ ymhellach.

Dywedodd Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Mae’r wobr hon yn dyst i’r ymrwymiad a’r penderfyniad a ddangoswyd gan y sefydliadau sy’n ffurfio Partneriaeth Cyrchfan Gynaliadwy Bannau Brycheiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Twristiaeth Bannau Brycheiniog, ein Awdurdodau Lleol, y busnesau lleol niferus ac amrywiol a’n Wardeniaid a’n rhwydwaith o wirfoddolwyr, sydd i gyd yn treulio amser diddiwedd ac yn ymdrechu’n galed i’n helpu i lunio’r dirwedd odidog yma. Mae creu ‘cyrchfan’ yn golygu  agwedd partneriaeth integredig ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym wedi ei gyflawni ym Mannau Brycheiniog ac rydym yn eithriadol o falch o fod wedi ein dewis fel Cyrchfan Orau Cymru.”

Ychwanegodd Laura Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Twristiaeth Bannau Brycheiniog:

“Rydym wrth ein boddau bod cyrchfan Bannau Brycheiniog wedi’i chydnabod fel Cyrchfan Orau Cymru! Rydym wedi gweithio’n galed iawn dros y blynyddoedd, gan ddod â chynrychiolwyr o’r sector preifat a’r cyhoedd ynghyd er mwyn ein helpu i ddatblygu partneriaeth a brand ‘Bannau Brycheiniog’. Cyflwynir y wobr hon i bob un person a phob busnes twristiaeth anhygoel sydd wedi’n cefnogi ni a’n helpu ni i arddangos Bannau Brycheiniog. Rydym am ddathlu’r llwyddiant yma ac am ddenu rhagor o bobl i’r rhanbarth er mwyn rhoi hwb pellach i’n heconomi leol. Bydd cyfres o ddigwyddiadau’n cael eu trefnu i ddathlu, a byddwn yn rhannu gwybodaeth bellach yn ystod yr wythnosau nesaf.”

Dewch i brofi’r gyrchfan arobryn drosoch eich hun – dechreuwch gynllunio eich antur yma www.bannaubrycheiniog.org

 – DIWEDD –