Awyrgludo ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Yr wythnos ddiwethaf cynhaliwyd cynllun awyrgludo ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fel rhan o’r gwaith sy’n cael ei wneud i helpu cynnal a gwarchod y dirwedd.

Dechreuodd gwaith yn y Mynyddoedd Duon gydag oddeutu nawdeg tunnell o gerrig yn cael eu hawyrgludo o Fwlch yr Efengyl ac ar Hatterral Ridge. Bydd y prosiect, sy’n cael ei ariannu gan Natural England yn gwella chwe chan metr o Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa.

Ar yr un pryd ac fel rhan o Brosiect Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon cafodd bron i bedwar can bag o rwbel grug (toriadau) eu hawyrgludo i fannau sydd wedi erydu ar Hatterrall Ridge a’r Darren Lwyd. Bydd y rwbel grug yn cael ei osod ar y ddaear gyda geodecstiliau eraill i helpu sefydlogi’r arwyneb ac atal yr adnoddau mawn sydd yno rhag erydu rhagor. Cafodd cant a thrideg o fagiau hefyd eu hawyrgludo i Waun Fach, bryn uchaf ardal y Mynydd Du, er mwyn trwsio mannau sydd wedi erydu ger y copa.

Ariennir Prosiect Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd drwy grant Cynllun Rheoli Cynaliadwy fel rhan o Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig 2014-2020.

Bydd y rwbel yn cael ei daenu dros y mannau sydd wedi erydu gan gontractiwr lleol, staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a gwirfoddolwyr.

Mae gwarchod a chynnal tir yn un o brif themâu corfforaethol y Parc Cenedlaethol ac mae prosiectau fel yr un hwn yn tynnu sylw at y gwaith sy’n mynd yn ei flaen ar lawr gwlad. Dwedodd Julian Atkins, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog;

“Mae cynllun awyrgludo’r gwanwyn hwn wedi ein galluogi ni i symud y deunyddiau perthnasol, er mwyn paratoi i gynnal a chadw’r llwybr troed ar hyd Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa, sy’n daith gerdded boblogaidd iawn yn y Parc Cenedlaethol. Rydyn ni hefyd wedi symud rwbel grug a fydd yn ein helpu ni i atal mawn rhag erydu ac yn adfer natur. Mae prosiectau fel Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon wedi golygu ein bod ni wedi cael gafael ar gyllid a bydd ein holl bartneriaid yn elwa o’r gwaith rheoli tir rydyn ni’n ei wneud. Mae’r mannau sydd wedi erydu’n amharu ar brofiad ymwelwyr sy’n cerdded yn ucheldiroedd y Parc ond maen nhw hefyd yn effeithio ar y mannau pori sydd ar gael.”

– DIWEDD –