Prifysgol Caerdydd yn canmol llwyddiant Geogelcio yn y Parc Cenedlaethol

Yn ddiweddar, gwnaeth Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd longyfarch a diolch i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog am gwblhau eu prosiect Geogelcio yn llwyddiannus.

Aeth Dr. Sara MacBride-Stewart i ddigwyddiad i ddathlu Geogelcio oedd yn cynnwys gweithgaredd geogelcio a chyflwyniad gan grŵp yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol. Eglurodd sut mae Prifysgol Caerdydd wedi cynnal astudiaeth am Geogelcio ym Mannau Brycheiniog a sut mae’r gweithgaredd yn helpu pobl i gysylltu â’u hamgylchedd naturiol.

Yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi helpu bron i naw cant o bobl ifanc rhwng unarddeg a phump ar hugain sy’n fregus neu wedi eu hallgáu’n gymdeithasol drwy roi cyfle iddyn nhw ddysgu am geogelcio a chymryd rhan ynddo. Mae’r Awdurdod hefyd wedi gweithio mewn partneriaeth ag Ysgol Penmaes i greu llwybr hygyrch geogelcio o gwmpas canol tref Aberhonddu a chroesawu ysgol o Gaerdydd fel yr un gyntaf i roi cynnig arno.

Gofynnodd Prifysgol Caerdydd gwestiynau a chofnodi data gan y rhai fu’n cymryd rhan yn y Geogelcio a hefyd gan arweinwyr grwpiau. Mae’r astudiaeth yn canolbwyntio ar sut mae gweithgaredd corfforol, Geogelcio a’r amgylchedd naturiol yn gallu gwella lles pobl ifanc Cymru. Pwysleisiodd Dr. MacBride-Stewart y gall Geogelcio wneud natur yn ddiddorol, yn hwyl ac yn hygyrch i bobl ifanc. Esboniodd fod lles yn ymwneud â sut mae gweithgaredd yn ‘teimlo’ yn hytrach na’r hyn rydyn ni’n ei ‘wneud’ a bod Geogelcio’n chwarae rhan sylfaenol wrth gyfoethogi sut mae profi natur yn ‘teimlo’ i unigolyn.

Dywedodd Julian Atkins, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog;

“Mae ein prosiect Geogelcio wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac mae’n enghraifft wych o sut rydyn ni’n cyflawni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Hoffwn hefyd ddiolch i’n partneriaid o Chwaraeon Cymru, Prifysgol Caerdydd a hefyd o Ysgol Penmaes, gan fod cydweithio yn hanfodol wrth ddatblygu gweithgareddau newydd os ydyn nhw am fod yn llwyddiannus, fel mae’r astudiaeth hon yn ei ddangos”.

– DIWEDD –