Llwybr Cerdded Newydd ar hyd y Gamlas

Mae llwybr iechyd newydd wedi cael ei lansio ar hyd Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog er mwyn helpu pobl i gynnal ac i wella eu hiechyd.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mewn partneriaeth â Glandŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datblygu llwybr ag arwyddion, yn rhedeg o Fasn y Gamlas yn Aberhonddu i loc Brynich, y gellir ei ddefnyddio i helpu i wella iechyd a lles y trigolion lleol.

Fe’i hagorwyd yn swyddogol heddiw gan Weinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, ac mae ‘Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog – Cam wrth Gam’ yn llwybr tua dwy filltir o hyd ar hyd llwybr halio’r gamlas. Mae arwyddion ar hyd y llwybr yn dangos i gerddwyr ar ba gymalau penodol y maen nhw ar y llwybr ac wedi’u cysylltu â map o’r llwybr y bydd doctoriaid yn eu dosbarthu i gleifion.

Mae’r map yn rhoi gwybodaeth fanwl ynglŷn â phellteroedd ac amser, ac wrth i gleifion ddod yn fwy ffit ac yn fwy iach byddant yn cael eu hannog i gerdded i gamau pellach. Mae’r cynllun llesol yn galluogi i’r Parc Cenedlaethol gael ei ddefnyddio i helpu gwasanaethau iechyd a helpu trigolion fwynhau’r dirwedd warchodedig.

Gall plant hefyd ddilyn y llwybr, ac mae taflen yn arddull helfa drysor wedi cael ei chynhyrchu i’w cadw’n brysur a’u difyrru.

Dywedodd Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd:

“Rwy’n falch ymweld ag Aberhonddu i lansio Cam wrth Gam yn ystod Wythnos y Parciau Cenedlaethol. Mae’r prosiect yn dangos y rôl ehangach y gall Awdurdodau’r Parciau ei chwarae yn ein bywydau bob dydd.

Heddiw fe wnes i gyhoeddi y byddaf yn adfer cyllidebau Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol am y ddwy flynedd nesaf, sy’n dangos ein hymrwymiad iddyn nhw. Fe wnes i hefyd gyhoeddi fy mlaenoriaethau ar gyfer ein Parciau Cenedlaethol a’n Hardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Rwyf am i ragor o bobl deimlo bod ganddyn nhw ran yn y tirweddau hyn sy’n bwysig yn genedlaethol. Mae Cam wrth Gam yn enghraifft wych o’r modd mae ein parciau cenedlaethol nid yn unig yn dirweddau arbennig ond yn wych ar gyfer ein iechyd cyffredinol a’n lles.”

Cyflwynwyd y Gweinidog hefyd i gynllun ail-lenwi dŵr wedi’i arwain gan Dwristiaeth Bannau Brycheiniog i leihau gwastraff plastig a chreu rhwydwaith o orsafoedd ail-lenwi yn y Parc Cenedlaethol ac o’i amgylch.

Meddai Sarah Coakham, Swyddog Partneriaethau Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae CNC yn falch iawn o gefnogi’r prosiect cyffrous hwn a’i weld yn cael ei lansio heddiw. Mae angen trysori ein hamgylchedd naturiol hardd yng Nghymru ac rydym yn gwybod bod cerdded yn yr awyr iach yn gallu roi hwb i iechyd a lles pobl. Rwy’n siŵr y bydd y prosiect ‘Cam wrth Gam’ yn cael mwy o bobl i fynd allan a mwynhau Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.”

Ychwanegodd Julian Atkins, Prif Swyddog Gweithredol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Mae’n wych cael y Gweinidog yma heddiw ac i ddangos y prosiectau gwerthfawr sy’n mynd rhagddynt ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog iddi. Rydym yn gweithio’n gyson  â’n partneriaid fel Glandŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Thwristiaeth Bannau Brycheiniog er mwyn cyflawni prif amcanion Llywodraeth Cymru, a thrwy hynny sicrhau y bydd Bannau Brycheiniog yn parhau i fod yn gryf ac i gael eu gwerthfawrogi yn y blynyddoedd i ddod.”

– DIWEDD –