Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ethol Cadeirydd newydd

Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ddydd Llun 30 Gorffennaf ym Mhencadlys yr Awdurdod yn Aberhonddu. Etholwyd Mr Ed Evans, aelod penodedig Llywodraeth Cymru yn unfrydol yn Gadeirydd newydd yr Awdurdod ac etholwyd y Cynghorydd Gareth Ratcliffe yn Is-Gadeirydd.

Gwnaed penodiadau pwysig eraill yn y cyfarfod gan gynnwys ethol Mr Julian Stedman yn Gadeirydd Cynllunio, Mynediad a Hawliau Tramwy a’r Cynghorydd Edwin Roderick yn Is-Gadeirydd.

Wrth annerch Aelodau, dywedodd Cadeirydd newydd-etholedig Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Ed Evans;

“Hoffwn ddiolch i chi i gyd am eich cefnogaeth ac rydw i’n edrych ymlaen at gydweithio gyda chi yn ystod y flwyddyn nesaf. Fy mlaenoriaethau yn y dyfodol, wrth weithio gyda’n haelodau, fydd cefnogi ein Prif Weithredwr, Julian Atkins, i ddarparu strwythur sefydliadol sy’n gweddu i’r dyfodol, gan gynnwys cefnogi trefniadau llywodraethiant a rhoi ein Fforwm Polisi newydd ar waith.

Cawson newyddion cadarnhaol hefyd ynglŷn â’n cyllid gan Weinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn wrth iddi ymweld â’r Parc yr wythnos ddiwethaf, ond byddwn ni’n parhau i ddefnyddio ein cyllideb mor effeithlon â phosibl. Mae cyfnod heriol yn ein hwynebu a byddwn ni’n parhau i gadw mewn cysylltiad ac yn cefnogi ein cymunedau yn enwedig felly wrth inni nesáu at y cyfnod wedi Brexit.”

Bydd y Cynghorydd Ann Webb yn ailgydio yn ei rôl fel Cadeirydd Archwilio a Chraffu, a bydd Ian Rowat yn Ddirpwy iddi. Bydd Deborah Perkin yn ailgychwyn ei swydd fel Cadeirydd y Gronfa Datblygu Cynaladwy gyda’r Cynghorydd Karen Laurie-Parry yn Ddirpwy iddi.

Cadeirydd y Fforwm Polisi newydd fydd Emily Durrant gyda’r Cynghorydd Graham Thomas yn Ddirprwy iddi.

Dywedodd Julian Atkins, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog;

“Hoffwn longyfarch pawb o’r Aelodau sydd wedi cael eu hethol i swyddi newydd a hefyd y rhai hynny’n sy’n ailgydio yn eu swyddi. Mae’n gyfnod o newid i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac edrychaf ymlaen at gydweithio yn ystod y flwyddyn nesaf i sicrhau bod y Parc Cenedlaethol yn parhau i gael ei werthfawrogi ac yn gadarn i’r dyfodol.”

– DIWEDD –